Y Gwyll
Mae’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd wedi dechrau yn Dungarvan yn Iwerddon heddiw, ac mi fydd y goreuon o blith yr holl wledydd Celtaidd yn cael eu gwobrwyo dros y tridiau nesaf.
Mae Y Gwyll, Y Byd ar Bedwar a rhaglenni Radio Cymru ymysg 34 o enwebiadau sy’n dod o Gymru yn yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd eleni.
Mae’r Ŵyl yn ddigwyddiad blynyddol sy’n hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau’r gwledydd a rhanbarthau Celtaidd yn y cyfryngau ac mae’r gwobrau yn gwobrwyo’r gorau mewn cynyrchiadau teledu, ffilm, radio a chyfryngau digidol.
Enwebiadau
Mae’r enwebiadau o Gymru eleni yn cynnwys saith i S4C gan gynnwys un i Y Gwyll am y gyfres ddrama orau, #Fi am y rhaglen blant orau, Y Byd ar Bedwar: Y felan a fi am y rhaglen materion cyfoes orau a Nadolig Bryn Terfel am y rhaglen adloniant orau.
Mae Radio Cymru hefyd wedi gwneud yn rhagorol gyda 9 o enwebiadau gan gynnwys un am yr orsaf radio orau.
Mae rhaglenni radio a theledu Saesneg BBC Cymru hefyd wedi eu henwebu am wobrau.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni yn Dungarvan, Iwerddon, rhwng 20 a 22 Ebrill.
Mae rhestr lawn o’r enwebiadau i’w gweld yma: