Dr Simon Brooks
Bydd Dr Simon Brooks yn cyfrannu at brosiect newydd yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe i greu Esboniadur ar gyfer beirniadaeth a theori lenyddol.

Bydd yr Esboniadur Beirniadaeth a Theori yn cael ei greu ar sail ymchwil sydd wedi’i noddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Y Darllenydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn yr Academi, Robert Rhys sy’n arwain y prosiect, ac fe fydd Simon Brooks yn Uwch-swyddog Ymchwil yn yr Adran â’r cyfrifoldeb am olygu’r Esboniadur.

‘Prosiect cyffrous’ 

Mae’n academydd toreithiog sydd wedi llunio llu o gyfrolau gan gynnwys ‘Pam na fu Cymru’, sy’n edrych ar genedlaetholdeb yng Nghymru.

Roedd ei gyfrol gyntaf, O dan lygaid y Gestapo, yn astudiaeth o feirniadaeth lenyddol yng Nghymru.

Cyfrol nesaf Dr Brooks fydd Hanes Cymry, sy’n ymdriniaeth gynhwysfawr â hanes lleiafrifoedd ethnig ym mywyd Cymraeg Cymru.

Dywedodd Dr Simon Brooks: “Prosiect cyffrous yw’r Esboniadur Beirniadaeth a Theori a fydd yn gwneud rhywbeth hollol newydd yn y Gymraeg.

“Rydym wedi cael gwyddoniaduron a bywgraffiaduron ac esboniadau diwinyddol yn y Gymraeg o’r blaen, ond dim byd o’r  math ym maes beirniadaeth a theori lenyddol.

“Yn yr Esboniadur, bydd diffiniadau o ffurfiau llenyddol ar gael, ynghyd â thrafodaeth ar dermau o fyd theori ddiwylliannol, a hefyd cofnodion am wahanol feirniaid llenyddol Cymraeg.

“Mae theori lenyddol yn medru bod yn astrus i fyfyrwyr, ac yn y Saesneg mae readers ar gael sy’n cyflwyno darllenwyr i syniadau cymhleth fel strwythuraeth, ffeminyddiaeth ac ôl-drefedigaethedd.

“Ond does dim byd tebyg ar gael yn y Gymraeg. Mae’r prosiect yn mynd yn ei flaen yn hwylus iawn ar hyn o bryd. Eisoes mae cannoedd o gofnodion wedi cael eu comisiynu a bydd ysgolheigion yn cyfrannu i’r prosiect o bob cwr o Gymru.”

Cafodd  gweithdy deuddydd llwyddiannus ei gynnal yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar i gynhyrchu cofnodion, ac fe fydd deunydd yn cael ei gyhoeddi’n gyson yn ystod 2016.