Llun gwneud o'r trac rasio arfaethedig
Mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru ar ôl iddi ddod yn amlwg na fyddan nhw’n rhoi gwarant ariannol i’r cynllun am gylch rasio ceir yng Nglyn Ebwy.
Yn ôl Plaid Cymru, mae agwedd y Llywodraeth Lafur wedi bod yn “amaturaidd” wrth ddelio â’r cynllun ar gyfer y trac gwerth £357 miliwn.
Ac mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu Llafur am annog Llywodraeth Prydain i roi “siec wag” i gefnogi gwaith dur Port Talbot ond yn gwrthod cefogi “yr hyn allai fod yn gynllun cyffrous iawn”.
‘Gormod o risg’
Ddoe fe gyhoeddodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart fod yna ormod o gwestiynau ariannol am y cynllun i’r llywodraeth allu gwarantu’r buddsoddiad.
Fe ddywedodd hefyd y byddai’n hapus iawn i gefnogi’r cynllun pe bai yna drefniant gwahanol a mwy o sicrwydd.
Ond, ar ôl i tua £9 miliwn o arian cyhoeddus gael ei wario ar ddatblygu’r cynllun, dywedodd Edwina Hart mewn llythyr ar y Prif Weinidog Carwyn Jones bod marc cwestiwn am allu’r prosiect i dalu ei ffordd a bod “risg annerbyniol” i’r llywodraeth warantu’r prosiect cyfan.
Roedd disgwyl y byddai’r cwmni yswiriant Aviva yn ariannu £300 miliwn o’r prosiect, ond maen nhw wedi dweud wrth golwg360 nad ydyn nhw am wneud sylw ar hyn o bryd yn dilyn y datblygiad diweddaraf.
‘Newyddion trychinebus’
Mae ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Flaenau Gwent, Nigel Copner, wedi galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi’r cyngor y mae wedi ei dderbyn gan swyddogion am y mater.
“Mae hyn yn newyddion trychinebus i Flaenau Gwent ac yn dangos agwedd amaturaidd llywodraeth Llafur tuag at sicrhau prosiectau o werth economaidd sylweddol,” meddai.
“Er gwaetha’ cael buddsoddwr yn barod i fwrw ymlaen gyda’r prosiect, mae’r llywodraeth Lafur wedi gwneud llanast o’r cynlluniau ac mae’r prosiect adnewyddu pwysig hwn wedi methu.
“Rhaid i Lafur gyhoeddi’r cyngor y maen nhw wedi ei dderbyn gan swyddogion dros y mater fel y gallwn weld beth yn union a ddigwyddodd – sut y llwyddodd y llywodraeth i wneud y fath lanast o’r fargen oedd ar y bwrdd?”
6,000 o swyddi
Y gobaith oedd y byddai trac rasio Cylch Rasio Cymru yn creu hyd at 3,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu ac y gallai’r nifer ddyblu ar ôl i’r trac gael ei agor.
Mae’r trac i fod i gael ei godi ar safle yn Rassau ger Glyn Ebwy, a byddai wedi bod yn un o’r cynlluniau adeiladu drutaf yn hanes rasio ceir gyda’r gobaith o allu cynnal y MotoGP yno yn y dyfodol.
Roedd cynlluniau hefyd i gynnwys trac beiciau a pharc technoleg ar gyfer ymchwil, gwasanaethau cymorth, gwesty a siopau ar y safle.
Yn ôl adroddiad ar y BBC, mae cwmni ceir TVR wedi dweud na fydd y problemau’n effeithio ar eu bwriad nhw i godi gwaith newydd yn yr ardal.