Bu farw 96 o gefnogwyr pan gawson nhw eu gwasgu ar derasau Hillsborough yn 1989
Mae’r rheithgor yn y cwest i farwolaethau 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield yn 1989 wedi cael eu hanfon allan o Lys y Crwner yn Warrington i ddechrau ystyried y dystiolaeth.

Mae’r rheithgor wedi bod yn gwrando ar dystiolaeth ers dwy flynedd yn yr achos hiraf erioed yng ngwledydd Prydain, ac fe fydd disgwyl iddyn nhw ateb cyfres o gwestiynau ar ffurf holiadur cyn dod i benderfyniad.

Fe fydd rhaid i’r saith dynes a thri dyn ystyried a gafodd y cefnogwyr eu lladd yn anghyfreithlon, ac a wnaeth ymddygiad cefnogwyr gyfrannu at y digwyddiad.

Cafodd cefnogwyr eu gwasgu ar derasau’r stadiwm wrth i Lerpwl baratoi i herio Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA ar Ebrill 15, 1989.

Ond gwnaeth yr heddlu ofyn am gael gohirio’r ornest am resymau diogelwch chwe munud wedi iddi ddechrau.

Cafodd 400 o bobol driniaeth yn yr ysbyty yn dilyn yr helynt gwaethaf erioed mewn stadiwm chwaraeon yng ngwledydd Prydain.

Mae mwy na 500 o bobol wedi rhoi tystiolaeth i’r cwest, ac mae’r rheithgor wedi cael gweld mwy na 4,000 o ddogfennau.

Dechreuodd y crwner, Syr John Goldring grynhoi’r achos ar Ionawr 25.