Mae Aelod Seneddol wedi teithio i India ar gyfer trafodaethau ynglyn â dyfodol gwaith dur Port Talbot.
Mae Stephen Kinnock yn mynd i fod yn bresennol mewn trafodaethau gyda Bwrdd cwmni Tata yn ninas Mumbai ddydd Mawrth, ynghyd â chynrychiolwyr undebau a gweithwyr.
“Mae gan y gwaith dur rôl bwysig yn economi Port Talbot,” meddai Stephen Kinnock mewn datganiad cyn cychwyn ar ei siwrnai nos Sul, “ond mae ganddyn nhw hefyd rôl bwysig yn gymdeithasol yn yr ardal. Mae’r gwaith yn rhan o ffabrig ein tre’.
“Mae popeth – o’n hysgolion i’n sustem drafnidiaeth i’n tai a’n teuluoedd – yn cael eu heffeithio gan y gwaith dur a’i ddyfodol.
“Dyna pam ei bod hi’n bwysig, pan maen nhw’n eistedd yn Mumbai yn gwneud eu penderfyniadau ar ddyfodol safleoedd, eu bod nhw’n deall beth fyddai effaith eu penderfyniad, a pha mor ddwfwn y byddai’r effaith hwnnw’n cael ei deimlo ym Mhort Talbot a’r ardal gyfan.”