Asad Shah yn ei siop yn ardal Shawlands, Glasgow
Mae gwerth dros £50,000 o roddion wedi’u rhoi i dudalen ar-lein sy’n codi arian i deulu siopwr o Glasgow a gafodd ei ladd am ddymuno “Pasg hapus” i’w gwsmeriaid o Gristnogion.

Fe gafodd Asad Shah ei ganfod wedi’i anafu’n ddifrifol yn ardal Shawlands o’r ddinas nos Iau, a bu farw cyn cyrraedd yr ysbyty.

Dim ond oriau’n gynharach, roedd y siopwr 40 mlwydd oed wedi postio neges ar wefan gymdeithasol yn dymuno Pasg hapus i Gristnogion. Roedd, yn y gorffennol, wedi siarad allan hefyd yn erbyn pob math o drais.

Mae dyn 32 mlwydd oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â marwolaeth Asad Shah, ac fe ddaeth cadarnhad gan lefarydd ar ran Heddlu’r Alban fod yr achos yn cael ei drin fel un wedi’i ganoli o gwmpas rhagfarn grefyddol. Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau hefyd mai Mwslim oedd Asad Shah a’r dyn sydd wedi’i arestio.