Mae dau ddyn wedi’u harestio yn Mali, mewn cysylltiad ag ymosodiad gan eithafwyr Islamaidd yn Y Traeth Ifori yn gynharach y mis hwn. Fe gafodd 19 o bobol eu lladd yn y digwyddiad mewn atyniad twristaidd yn ardal Abidjan ar Fawrth 13 – y trydydd ymosodiad o’i fath o fewn ychydig fisoedd.

Fe gafodd y ddau ddyn eu cymryd i’r ddalfa yn Goundam, yng ngogledd y wlad. Mae un ohonyn nhw wedi’i adnabod fel y gyrrwr a ddaeth â’r ymosodwyr i’r Traeth Ifori, ac mae’r ail ddyn yn cael ei amau o’i gynorthwyo.

Mae tri dyn o Mali eisoes yn y ddalfar yn Y Traeth Ifori.

Mae cangen gogledd Affrica o al-Qaida eisoes wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar y traeth ac ar westai yn Mali a Burkina Faso.