Mae heddlu yn yr Iseldiroedd wedi arestio Ffrancwr 32 oed yn ninas Rotterdam, a hynny am fod yr awdurdodau yn Ffrainc yn ei amau “o fod â rhan mewn cynllwyn i achosi ymosodiad terfysgol”.
Fe gafodd trigolion lleol eu symud o’u cartrefi ar ddwy stryd yn y dre’ borthladd, wrth i heddlu gwrth-derfysgaeth gynnal cyrch yn yr ardal. Yn ogystal â’r Ffrancwr, fe gafodd tri dyn arall hefyd eu cymryd i’r ddalfa.
Fe ddaeth cais gan awdurdodau Ffrainc ddydd Gwener, ac mae disgwyl i’r dyn sydd wedi’i arestio gael ei ystraddodi yno yn fuan.
Mae’r tri dyn arall – dau o dras Algeraidd – yn rhan o ymchwiliad gan heddlu’r Iseldiroedd.
Fe ddaw’r cyrch diweddara’ hwn tra bod Ewrop gyfan ar ei gwyliadwraeth yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol ar ddinas Brwsel ddydd Mawrth diwetha’.