Mae carfan fechan o’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad terfysgol mewn parc yn Lahore, Pacistan. Mae beth bynnag 70 o bobol wedi’u lladd gan hunanfomiwr ar Sul y Pasg.
Mae llefarydd ar ran y grwp Jamaat-ul-Ahrar wedi cadarnhau fod hunanfomiwr wedi targedu’n fwriadol y gymuned Gristnogol yn y ddinas.
Fe ddigwyddodd y ffrwydriad ger man chwarae i blant ym mharc Gulshan-e-Iqbal, ardal a oedd yn llawn Cristnogion yn dathlu’r Pasg.
Fe gafodd mwy na 300 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad, ac mae prif weinidog ardal y Punjab, Shahbaz Sharif, wedi cyhoeddi y bydd tridiau o alaru swyddogol.