Fe fydd ffatri newydd yn agor yng Nglyn Ebwy gan  gyflogi 150 o bobl i gynhyrchu’r ceir cyflym TVR, mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru gyhoeddi heddiw.

Daw’r newyddion wythnosau’n unig wedi’r cyhoeddiad y bydd Aston Martin yn agor ffatri yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg gan greu 750 o swyddi.

Bydd pedwar model o’r ceir TVR yn cael eu cynhyrchu yn Ardal Fenter Glyn Ebwy dros y deng mlynedd nesaf, gyda’r cwmni’n anelu at gynhyrchu 2,000 o geir yn y ffatri erbyn 2022.

Nid yw dyluniad y car wedi’i gyhoeddi eto, ac mae disgwyl hynny cyn diwedd y flwyddyn.

 

‘Hwb sylweddol’

Mewn anerchiad i arweinwyr busnes ym Mae Caerdydd heddiw, mae disgwyl i’r Prif Weinidog groesawu’r cyhoeddiad sydd wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru.

“Mae hwn yn fuddsoddiad proffil uchel gwych arall i Gymru ac mae’n hwb sylweddol i’n sector moduro.

“Mae TVR yn frand eiconig arall o safon fyd-eang, y mae cariad mawr tuag ato ac y mae pobl ym mhedwar ban byd yn driw iawn iddo o hyd.

“Rwyf wrth fy modd y bydd y genhedlaeth nesaf o geir TVR yn dwyn y label ‘Gwnaed yng Nghymru’ a hynny gyda balchder.”

‘Sector ffyniannus’

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, bod y buddsoddiad yn “siarad cyfrolau am y sgiliau lefel uchel sydd gennym mewn gweithgynhyrchu uwch, ac rwy’n hynod falch y bydd y cwmni yn creu nifer sylweddol o swyddi newydd ym Mlaenau Gwent.”

“Mae TVR yn ychwanegiad a groesewir yn fawr i’r sector ffyniannus a dynamig yng Nghymru, lle mae mwy na 150 o gwmnïau yn rhan o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer moduron, gan gyflogi tua 18,000 o bobl a chreu mwy na £3 biliwn i economi Cymru.”

‘Galw am brentisiaethau’

Esboniodd Les Edgar, Cadeirydd TVR, fod de Cymru’n “datblygu i fod yn ganolfan bwysig ar gyfer datblygiadau a thechnoleg ym maes moduron a chwaraeon moduron.”

“Bydd y ffatri yng Nghymru yn brysur yn cyflawni archebion sydd eisoes wedi’u trefnu hyd at ddiwedd 2018, a thrwy ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, rydym o’r farn y bydd Cymru yn darparu’r amgylchedd cywir i sicrhau bod y prosiect yn llwyddo.”

Croesawodd ymgeisydd Plaid Cymru Blaenau Gwent, Nigel Copner, y cyhoeddiad, ond galwodd am fuddsoddiad mewn prentisiaethau hefyd er mwyn sicrhau cyfleoedd i bobl leol fanteisio ar y swyddi.