Taulupe Faletau (Llun:PA)
Richard Carbis sydd yn asesu’r gêm fawr yn y Chwe Gwlad yfory…
“As long as we beat the English…” fel y canodd y Stereophonics. Wel, mae’r gêm fawr wedi cyrraedd a dw i’n meddwl bod y gallu gan Gymru i faeddu’r Hen Elyn unwaith eto.
Yn anghredadwy, mae sawl person wedi cwestiynu safon chwarae Cymru ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc.
Mae’n rhaid i gefnogwyr Cymru benderfynu. Ai chwarae pert sydd yn bwysig, ynteu ennill?
Fel un sydd wedi gwylio Cymru yn ystod y 1980au a’r 1990au, doeddwn i ddim yn meddwl ei bod yn bosib i’r crysau cochion drechu Ffrainc bum gwaith yn olynol.
Efallai eich bod chi’n sylwi felly fy mod i o blaid ennill, ac ar ddiwedd y dydd, rhaid bod hynny yn fwy pwysig na’r steil o chwarae.
Mae angen derbyn beth yw cryfder ein tîm ac mewn gwirionedd amddiffyn cryf, chwaraewyr sydd yn rhedeg yn nerthol a chicio da yw sail llwyddiant Cymru.
Pob tro mae’r tîm yn lledu’r bêl, dw i’n dechrau teimlo’n ansicr iawn achos mae’n glir nad yw trafod y bêl yn dod yn naturiol iddyn nhw.
Faletau v Vunipola
Dw i’n meddwl bod angen ystyried sawl brwydr sydd â’r potensial i ennill neu golli’r gêm yfory.
Does dim amheuaeth bod Tonga yn gallu bod yn hynod o falch o deuluoedd Taulupe Faletau a Billy Vunipola, y ddau chwaraewr o’r ynysoedd pell.
Mae’n rhaid cydnabod bod Vunipola wedi gwella dan hyfforddiant Eddie Jones, ond hoffwn awgrymu bod Lloegr yn gorddibynnu ar yr wythwr ac felly petai Cymru’n gallu ei stopio fe fydd prif ymosodiad y Saeson yn dod i ben.
Mae Faletau yn wahanol. Nid cryfder yn unig sydd ganddo ond y gallu i ddarllen y gêm, taclo’n ddi-baid a rhedeg yn bert trwy amddiffyn y gelyn.
Warburton v Haskell (a Robshaw)
Dyma gyfle Sam Warburton i ddangos bod ei nerth dros y bêl yn allweddol i lwyddiant Cymru.
Gyda chefnogaeth Dan Lydiate, sydd hefyd yn dod nôl at ei orau yn dawel bach, mae gan Gymru gyfle i arafu pêl Lloegr.
Pe bai Lloegr yn llwyddo i ennill meddiant cyflym ac arafu ein pêl ni gyda’u blaenasgellwyr nhw Chris Robshaw a James Haskell, fe fyddan nhw’n gallu ennill y gêm.
Davies & Webb v Youngs & Care
Dw i ddim yn bod yn wirion wrth dynnu sylw at y pedwar mewnwr, achos mae gan bob un ohonyn nhw siawns o ennill y gêm i’w timau.
Mae gallu Gareth Davies i sgorio ceisiau yn wych, ond efallai bod gan Webb fwy o weledigaeth wrth geisio rheoli gêm.
Mae Danny Care yn newid tempo’r gêm ac yn sicr yn fwy parod na Ben Youngs i newid y tactegau.
Biggar v Ford
Mae pawb yn sôn am Jonny Sexton fel y maswr gorau yn Ewrop, ond yn fy marn i mae pasio George Ford a chicio Dan Biggar yn fwy cywir na’r Gwyddel.
Does neb yn rhedeg ar ôl cic ei hun yn well na Dan Biggar, mae ei allu o dan y bêl uchel yn anhygoel.
Yn sicr dyma arf sydd yn gallu datgloi’r amddiffyn mwyaf tynn.
Bygythiad Lloegr
Yn gyffredinol mae’r wasg o farn bod olwyr Lloegr yn chwarae’n well nag ers llawer dydd. Yn fy marn i, mae Eddie Jones wedi rhoi rhyddid i’r olwyr fynd amdani a chwarae beth sydd o’u blaenau yn lle cadw at batrymau roedden nhw’n dysgu ar y maes hyfforddi.
Yn erbyn Yr Eidal roedden nhw’n manteisio ar bob cam-drafod gan yr Eidalwyr a’u cosbi nhw am bob camgymeriad yn yr ugain munud olaf.
Chwaraeodd Jonathan Joseph yn dda iawn gan gadw ei ben i fyny a darganfod y gwagle.
Efallai mai un o’r brwydrau mwyaf diddorol fydd Manu Tuilagi yn dod ymlaen fel eilydd i geisio rhedeg trwy amddiffynwyr Cymru pan fyddan nhw’n dechrau blino. Mae’r fainc felly yn allweddol i’r ddau dîm a phleser yw gweld Luke Charteris ymysg eilyddion Cymru.
Tân gwyllt yn y cefn
Ond hoffwn dynnu sylw at ddwy frwydr arall fydd yn allweddol yn ystod y gêm.
Yn gyntaf Mike Brown yn erbyn Liam Williams. Maen nhw yn chwaraewyr tanllyd iawn sydd yn gallu newid gêm wrth ymosod.
Mae hi’n amlwg bod Mike Brown yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i guro Cymru, a bydd rhaid i’r Cymry fanteisio ar y sefyllfa a cheisio achosi Brown i fynd yn fwy rhwystredig yn ystod y gêm. Wrth wneud hyn bydd cyfle i ennill ciciau cosb.
Hoffwn weld Liam Williams yn rhedeg fwy tuag at wrthwynebwyr. Un peth sydd yn sicr, ni fydd y tân gwyllt ar ddechrau’r gêm yn unig gyda’r ddau yma yn chwarae.
Yn ail, mae Sam Warburton wedi awgrymu y bydd y gêm yn troi ar ddigwyddiad arbennig gan unigolyn ac yn fy marn i, Alun Wyn Jones yw’r unigolyn hwnnw.
Bydd ei ymdrechion i guro pac Lloegr yn hanfodol at lwyddiant y tîm. Nid ei ymroddiad at yr achos yn unig sydd yn bwysig, ond sut mae’r aeddfedrwydd sydd ganddo yn helpu pawb o’i amgylch.
A oes siawns gan Loegr?
Dw i’n meddwl bod dwy elfen o’r gêm y bydd hi’n angenrheidiol i Loegr ennill os ydyn nhw am gipio buddugoliaeth.
Yn gyntaf, dw i’n sicr y bydd Dan Cole a gweddill y rheng flaen yn edrych ymlaen at bob sgrym yn erbyn Rob Evans. Ond efallai y bydd hyn yn gweithio o blaid Cymru oherwydd bod y crysau cochion yn gwthio’n syth a does neb yn gallu dweud bod Lloegr yn gwneud hynny.
Bydd rhaid i ni ddibynnu ar y dyfarnu. Craig Joubert yw’r dyn â’r chwib, gan ddyfarnu ei gêm gyntaf ers iddo wneud camgymeriad yn yr ornest rhwng Yr Alban ac Awstralia yng Nghwpan y Byd. Nid y sgrym yw cryfder Joubert felly bydd rhaid i’r rheng flaen gymharol ifanc ddal eu tir.
Pan oedd Eddie Jones yn hyfforddi Awstralia, roedd e’n gwybod mai’r ffordd orau o guro Cymru oedd cadw’r bêl yn fyw gydag ymosodiad ar ôl ymosodiad, yn debyg i’r modd yr oedd Siapan yn chwarae yn ystod Cwpan y Byd.
Mae hyn yn gallu profi’n effeithiol iawn petai Cymru’n ei gweld hi’n anodd arafu pêl Lloegr, a chydag Anthony Watson ar yr asgell mae ganddyn nhw chwaraewr dawnus fydd yn gallu cymryd mantais o’r sefyllfa.
A fydd Cymru’n ennill?
Wrth gwrs bydd emosiynau yn rhedeg yn uchel ar ôl buddugoliaeth Cymru yn ystod Cwpan y Byd, ond fe all gormod o emosiwn achosi i dîm fynd dros ben llestri a cholli gafael ar gêm.
Pwyll biau hi ddydd Sadwrn, a dw i’n meddwl bod profiad Cymru yn mynd i’w helpu wrth iddyn nhw amddiffyn yn effeithiol a chymryd mantais o bob cyfle sydd yn codi.
Ond bydd angen ennill pêl chwim a’i defnyddio hi’n gywir er mwyn ennill ym ‘mhencadlys’ y gêm rygbi yn Lloegr am yr ail waith yn olynol.
Petai George North yn gallu sgorio cais ar y ffordd i fuddugoliaeth, bydd pob dymuniad wedi’i gyflawni.