Joe Ledley a'r garfan yn dawnsio
Bydd tîm Cymru’n gobeithio bod yn rhif un ar y cae pêl-droed erbyn yr Ewros yn yr haf – ond fe allen nhw fod yn anelu am frig y siartiau cerddorol hefyd.

Fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’r wythnos hon bod sôn wedi bod am ryddhau cân swyddogol gan y garfan cyn y gystadleuaeth yn Ffrainc, ond bod “dim wedi’i gytuno” eto.

Roedd y traddodiad oedd yn boblogaidd ymysg timau pêl-droed yn yr 1980au a’r 1990au, gyda chwaraewyr yn rhyddhau cân cyn twrnament ryngwladol neu ffeinal cwpan.

Ond er nad yw’r arfer yn un cyffredin mwyach, mae’r canwr Geraint Lovgreen yn credu y byddai croeso mawr gan y cefnogwyr petai Gareth Bale a’r tîm yn camu i’r meicroffon eleni.

Mynd i hwyl pethau

Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr Cymru deithio draw i Ffrainc ar gyfer y gystadleuaeth, sydd yn dechrau ar 10 Mehefin.

Ac er bod Geraint Lovgreen yn cyfaddef ei bod hi’n gallu bod yn anodd cyfansoddi cân bêl-droed dda, mae’n ffyddiog y byddai tîm Cymru yn gallu mynd i hwyl pethau wrth wneud.

“Dydyn ni heb gael y cyfle i wneud o’r blaen!” meddai Geraint Lovgreen, sydd hefyd yn ddilynwr brwd o’r tîm cenedlaethol, wrth golwg360.

“Dyna beth fysa fo, novelty. Ond mae o jyst yn mynd i fod yn gymaint o hwyl, mae’r teimlad ein bod ni’n mynd i fod yn rhan o barti mawr yn rhan o’r peth.”

Canu yn Gymraeg

Does dim diffyg talent gerddorol yn nhîm Cymru chwaith, gyda’r golwr Owain Fôn Williams – cefnder ffrynt man Candelas, Osian Williams – yn aml yn diddanu’r garfan ar ei gitâr ar ôl gemau rhyngwladol.

Mi fyddai dawns adnabyddus Joe Ledley yn siŵr o fod yn rhan o unrhyw gân swyddogol, yn ôl Geraint Lovgreen, fyddai hefyd yn hoffi ei gweld hi’n cael ei chanu’n ddwyieithog.

“Erbyn hyn mae fideo yn rhan mor bwysig o gân, dw i’n disgwyl y byddai Joe Ledley yn cael rhan flaenllaw yn y fideo – os di o’n gallu canu hefyd, gorau oll!” meddai’r canwr.

“Bysa fo’n neis tasa ‘na bennill Gymraeg ynddo fo hefyd, gan fod ’na Gymry Cymraeg yn y sgwad.”

Stori: Iolo Cheung