Wrth i Bontypridd adfer wedi difrod Storm Bert, mae un o’r trigolion lleol wedi bod yn myfyrdodau ar drychineb y penwythnos diwethaf wrth siarad â golwg360.

Mae Jayne Rees wedi bod yn gwirfoddoli yng Nghlwb y Bont ger yr afon ers talwm.

Mae’r clwb yn un o sefydliadu amlycaf cymuned Gymraeg Pontypridd.

Er bod Clwb y Bont yn ymyl rhai o’r adeiladau a’r busnesau gafodd eu heffeithio waethaf, mae’n debyg i’r clwb fedru osgoi cryn dipyn o’r difrod gafodd ei achosi gan y llifogydd.

“Doedd Clwb y Bont ddim cynddrwg â beth o’n i’n ei ddisgwyl,” meddai Jayne Rees wrth golwg360.

“Mi fuon ni’n golchi’r lloriau yno ddoe, ac rydyn ni’n gobeithio ailagor nos yfory.

“Doedd dim rhaid i ni ohirio unrhyw ddigwyddiadau, diolch byth.

“Mae pawb yn hapus iawn fod dim gormod o ddifrod wedi bod y tro yma.”

Llifddorau

Mae un peth allweddol yn egluro pam fod Clwb y Bont wedi bod mor ffodus o gymharu â lleoliadau eraill y dref.

“Roedd rhai o’r pwyllgor wedi bod lan ar ddydd Sadwrn yn gosod y llifddorau lan,” meddai Jayne Rees.

“Oni bai am hynny, mi fyddai pethau wedi bod yn lot gwaeth.”

Amddiffynfeydd yw llifddorau, sy’n cael eu gosod o flaen drysau adeiladau er mwyn rhwystro llif y dŵr.

“Mae’n amlwg bod llifddorau yn rhywbeth ddylai’r Cyngor fod yn meddwl amdano fe yn y dyfodol agos, fel bod mwy o gartrefi ym Mhontypridd yn medru cadw peth o’r dŵr rhag dod i mewn.

“Doeddwn i ddim yn cofio Stryd y Felin yn ei chael hi mor wael o’r blaen, a doedd dim llifddorau ganddyn nhw o gwbl.

“Mae miliynau o bunnoedd wedi cael eu gwario ers Storm Dennis yn 2020, ond mae’n amlwg nad yw rheiny wedi bod yn llwyddiannus tro yma.”

Llif anhygoel

Ychwanega Jayne Rees fod llif yr afon dros y penwythnos yn “anhygoel”.

“Mae pobol wedi dweud wrtha i eu bod nhw wedi gweld rhywbeth tebyg yn ystod Storm Dennis, ond fe es i weld yr afon fore Sul (Tachwedd 24) ac mi oedd y dŵr yn ymestyn dros y pontydd.

“Roeddwn i’n gwybod wedyn y byddai difrod mewn llefydd.”

Ymhlith y llefydd gafodd eu heffeithio waethaf roedd yr amgueddfa a’r Lido awyr agored ym Mharc Ynysangharad.

“Mae’r lido wedi’i chael hi,” meddai wedyn.

Mae rheolwyr y Lido ym Mhontypridd wedi cadarnhau y bydd y pwll ar gau tan heddiw (Tachwedd 26) o leiaf, wrth i’r difrod gael ei asesu.

Stryd y Felin

Maae’n ymddangos y bydd y llifogydd yn cael effaith hirdymor ar siopau bychain Stryd y Felin yng nghanol y dref, fodd bynnag.

“Mae’r Cyngor wedi bod yn eithaf cyflym yn dod â sgipiau i Stryd y Felin,” meddai Jayne Rees.

“Mae’n druenus gweld beth mae pobol wedi gorfod taflu mas o’u siopau nhw.

“Mae siop lyfrau Storyville wedi gorfod cael gwared o lot o lyfrau newydd sbon.

“Rydyn ni’n lwcus ym Montypridd, ar Stryd y Felin mae yna lot o siopau annibynnol.

“Ond, yn amlwg, mae rhywbeth fel yma’n mynd i’w taro nhw’n waeth na’r siopau mawr.”

Diogel

Er gwaethaf tristwch y sefyllfa, mae gan Jayne Rees neges gadarnhaol, a hithau’n awyddus i bwysleisio nad oedd angen defnyddio nifer o’r gwasanaethau argyfwng gafodd eu darparu.

“Mi wnaethon nhw agor gwahanol hybiau i bobol fynd iddyn nhw pe bai angen,” meddai.

“Fe wnaethon nhw agor y llyfrgell drwy’r dydd ar ddydd Sul, fel bod pobol yn medru eistedd neu gael coffi neu wefru’u ffonau, ond glywais i fore ddoe doedd braidd neb wedi dod.

“Rydych chi’n cymryd, wedyn, fod pobol yn reit ddiogel – naill ai wedi mynd i aros gyda pherthnasau neu ffrindiau, neu wedi aros lan lloft yn eu tai.

“Does dim byd yn waeth na dŵr brwnt.

“Ond mae’r haul ma’s bore ‘ma, a dw i’n cymryd bod pethau’n gwella.”

Sikhiaid Coventry yn helpu dioddefwyr llifogydd ym Mhontypridd

Mae’r mudiad Langar Aid wedi bod yn paratoi pecynnau bwyd a nwyddau hanfodol i’w hanfon i Gymru

Galw am daliadau brys i ddioddefwyr llifogydd

Mae Mick Antoniw hefyd yn galw am adolygu system rybuddion y Swyddfa Dywydd

Busnesau’n ymateb i’r difrod yn sgil llifogydd dros y penwythnos

Efan Owen

Roedd difrod sylweddol ym Mhontypridd, Sir Fynwy a Blaenau Gwent