“Diffyg cyllid” oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i dynnu Plas Tan-y-Bwlch oddi ar y farchnad agored, yn ôl cynghorydd lleol sydd wedi mynegi “siom” ond “gobaith” hefyd.
Mae Elfed Roberts yn gynghorydd lleol ar ardaloedd Trawsfynydd, Maentwrog a Gellilydan ac hefyd yn aelod o Fwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Daeth cadarnhad ddydd Gwener (Tachwedd 15) fod yr Awdurdod wedi penderfynu tynnu’r plasty oddi ar y farchnad agored yn dilyn yr hyn maen nhw’n ei alw’n drafferthion ariannol.
Roedd wedi bod ar y farchnad am £1.2m ers mis Awst eleni, ond roedd pryderon mawr ymhlith trigolion lleol ynglŷn â mynediad at y dyfodol i Lyn Mair a’r coetir cyfagos.
Dywed Elfed Roberts, fodd bynnag, fod y penderfyniad “wedi’i wneud yn iawn”.
“Falch” o gael gweld opsiynau eraill
Wrth siarad â golwg360 yn dilyn y penderfyniad, dywed Elfed Roberts ei fod yn “meddwl fod y penderfyniad wedi cael ei wneud yn iawn, fel bod y cyhoedd yn cael mwy o amser ac i rywun gael hel pecyn at ei gilydd”.
“Mae’n siom ofnadwy ei fod wedi dod i’r sefyllfa yma, mewn ffordd, ond dw i’n gobeithio [y bydd cyfle] i gadw’r adeilad a’r tiroedd i fynd.
“Mae’r tiroedd yn bwysig iawn hefyd.
“Dydw i heb clywed [ymateb] gan neb lleol eto ond yn sicr, mi fyddan nhw yn falch o gael y cyfle i edrych ar opsiynau eraill.”
Mae disgwyl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyhoeddi manylion pellach am ddyfodol Plas Tan-y-Bwlch yn eu cyfarfod ar Ebrill 30.