Cyngor Ceredigion - un o'r cynghorau (Humphrey Bolton CCA2.0)
Mae saith o gynghorau Cymru’n ystyried codi trethi uwch ar dai haf, meddai’r BBC.

Fe fyddai hynny’n golygu defnyddio hawliau newydd i ddyblu treth cyngor ar gartrefi o’r fath.

Yn ôl yr adroddiadau, mae’r syniad yn cael ei ystyried gan bob un o gynghorau gorllewinol Cymru –Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn ystyried defnyddio’r hawl.

Un ddadl  o blaid yw y byddai llai o dai haf yn golygu bod rhagor o dai fforddiadwy ar y farchnad i bobol leol.

Y cefndir

Fe ddaeth yr hawl i ddyblu’r dreth gyngor yn Neddf Tai Cymru 2014, sydd hefyd yn rhoi’r un hawl ynglŷn â thai sy’n wag ers mwy na blwyddyn.

Cyn hynny, roedd gan gynghorau hawl i roi disgownt treth i dai haf ac, adeg pasio’r ddeddf, roedd mwy na 23,000 o dai yn cael y disgownt hwnnw yng Nghymru.

Yn ôl y Llywodraeth, roedd 80% o’r gostyngiadau hynny wedi eu rhoi yn chwech o’r saith sir ar y rhestr heddiw – Sir Gaerfyrddin yw’r llall.