Terry Matthews - wedi arwyddo (llun cyhoeddusrwydd y cwmni)
Mae un o ddynion mwya’ cyfoethog Cymru ymhlith bron 200 o benaethiaid busnesau sydd wedi arwyddo llythyr yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Terry Matthews, perchennog atyniad y Celtic Manor ger Casnewydd, yw un o’r arweinwyr sy’n dweud y byddai gadael yr Undeb yn “atal buddsoddi a bygwth swyddi”.

Mae llond llaw o fusnesau llawer llai yng Nghymru hefyd wedi arwyddo’r llythyr i bapur newydd y Times a’r enwau eraill yn cynnwys 36 o’r 100 cwmni mawr ar restr y FTSE100.

Mae’r cwmnïau’n cynnwys Marks and Spencer, BT a dau faes awyr mawr Heathrow a Gatwick.

Llai na’r disgwyl

Y sïon oedd y byddai cymaint â hanner y busnesau mawr wedi arwyddo ac mae’r ymgyrchoedd ‘Na’ yn tynnu sylw at yr holl enwau mawr sy’n absennol.

Maen nhw hefyd wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain, David Cameron, o roi pwysau ar gwmnïau i arwyddo.

Mewn llythyr arall yn y papur, mae Ysgrifennydd Cyffredinol cyngres undebau Llafur y TUC, Frances O’Grady, yn rhybuddio y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn gwneud drwg i hawliau gweithwyr.