Comisiynydd y Gymraeg fydd yn dyfarnu (llun swyddfa'r Comisiynydd)
Mae wedi dod i’r amlwg fod Llywodraeth Cymru am herio dwy o’u safonau iaith a ddaw i rym fis nesaf.
Maen nhw eisoes wedi cyflwyno cais gerbron Comisiynydd y Gymraeg i herio’r galw arnyn nhw i ddarparu dogfennau i’r cyhoedd yn ddwyieithog, a’r ail gymal yn galw am gyhoeddiadau sain dwyieithog yn y man gwaith, gyda’r Gymraeg yn gyntaf.
Fe gafodd y Safonau Iaith eu llunio gan weision sifil Llywodraeth Cymru cyn eu cymeradwyo gan y Cynulliad y llynedd, ac mae disgwyl iddyn nhw ddod yn weithredol ym mis Mawrth 2016.
Comisiynydd y Gymraeg wedyn oedd yn penderfynu pa rai oedd yn berthnasol i gyrff penodol.
‘Ymrwymo’n llwyr’
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi “croesawu’r rhestr derfynol o Safonau’r Gymraeg a osodwyd ar Weinidogion Cymru ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’w gweithredu.”
“Ar ôl ystyried goblygiadau gweithredu’r safonau yn ofalus, rydym wedi penderfynu herio Comisiynydd y Gymraeg o safbwynt dwy o’r 164 o safonau, sef Safon 40 a Safon 144. Rydym yn aros am ymateb y Comisiynydd.”
‘Testun cywilydd’
“Dylai fod yn destun cywilydd bod y Llywodraeth yn herio dyletswyddau a gafodd eu llunio a’u cyflwyno ganddyn nhw eu hunain i’r Cynulliad,” meddai Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn ei llythyr at y Prif Weinidog.
“Os nad ydy’r Llywodraeth yn barod i fodloni hawliau sylfaenol i’r Gymraeg, pwy sydd?”
Fe esboniodd y bydd Cymdeithas yr Iaith yn gwrthwynebu’r her ac “yn ystyried ein hawliau i ymyrryd yn gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru a chyrff eraill. Byddwn ni’n sefyll lan dros bobol er mwyn sicrhau eu hawliau dynol, eu hawliau i’r Gymraeg.”
Dyfarnu
Mae chwech corff arall, gan gynnwys nifer o gynghorau Cymru wedi herio rhai o’r safonau iaith sydd wedi eu gosod arnyn nhw ac mae disgwyl i Gomisiynydd y Gymraeg ddyfarnu ar hynny.
“Rydym yn erfyn arnoch chi i beidio ag ildio i’r heriau hyn. Eich swyddogaeth yw amddiffyn hawliau pobol i’r Gymraeg, nid ildio i’r swyddogion sy’n gwrthwynebu newid ac eisiau amddifadu pobol o’u hawliau dynol,” meddai Manon Elin mewn llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg.