Kirsty Williams (o wefan y Democratiaid Rhyddfrydol)
Mae dau o arweinwyr pleidiau Cymru eisoes yng ngyddfau’i gilydd tros refferendwm Ewrop.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymosod yn chwyrn ar arweinydd Ceidwadwr Cymru am ei benderfyniad i gefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae penderfyniad Andrew R T Davies yn “anhygoel”, meddai Kirsty Williams, gan ei gyhuddo o droi ben i waered tros y mater.

Wythnos yn ôl, meddai, roedd wedi dweud wrth newyddiadurwr y byddai o blaid aros.

Y cyhoeddiad

Yn hwyr ddoe y daeth y cyhoeddiad annisgwyl gan Andrew R T Davies, ond mae’n dilyn penderfyniad nifer o ffigurau amlwg eraill o fewn y Blaid Geidwadol yng Nghymru.

Ac mae yna aros o hyd i weld a fydd un o weinidogion Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn gwneud yr un peth.

Ond, yn ôl Kirsty Williams, roedd arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn peryglu “miloedd o swyddi” yng Nghymru.

‘Sarhad’

“Dw i’n methu’n lân â deall sut y gall cyd-arweinydd plaid droi bendramwnwgl ar bwnc sydd mor allweddol i ddyfodol ein cenedl,” meddai Kirsty Williams.

“Mae ei bleidlais i adael yn sarhad ar ffermwyr sy’n gweithio’n galed, ar berchnogion busnesau bach a phobol eraill y mae eu swyddi’n dibynnu ar fasnach Ewropeaidd.”