Andrew RT Davies
Mae arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig wedi datgan heddiw ei fod yn bwriadu pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ym mis Mehefin.

Daeth cyhoeddiad Andrew RT Davies wedi i’r diweddaraf o Aelodau Seneddol y blaid yng Nghymru ddatgan ei fod yntau hefyd eisiau gadael Ewrop.

“Ar ôl dwys ystyried, rwyf wedi penderfynu y byddaf yn pleidleisio i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Andrew RT Davies ar ei dudalen Facebook.

“Rwy’n credu y bydd gennym ni ddyfodol gwell fel rhan o berthynas economaidd fwy rhydd gyda’r Undeb Ewropeaidd.”

Rhagor yn bwriadu gadael

Fe yw’r diweddaraf o’r Ceidwadwyr yng Nghymru i ddatgan y byddan nhw’n taro pleidlais ‘Na’, wrth i bedwar AS Torïaidd yng Nghymru ddweud eu bod nhw am adael Ewrop.

Dywedodd AS Dyffryn Clwyd James Davies heddiw ei bod hi’n bryd “symud ymlaen” o’r Undeb Ewropeaidd, tra bod David Jones, Chris Davies a David Davies hefyd wedi dweud eu bod nhw eisiau gadael.

Dau Aelod Seneddol Ceidwadol yng Nghymru sydd dal heb ddewis pa ffordd i fynd, Glyn Davies ac Alun Cairns, tra bod pump wedi datgan eu cefnogaeth i aros yn Ewrop – Stephen Crabb, Guto Bebb, Byron Davies, Simon Hart a Craig Williams.

Amseru anffodus?

Daw cyhoeddiad Andrew R T Davies yn ergyd pellach i’r Prif Weinidog David Cameron, ar ôl i Faer Llundain a ffefryn i’w olynu fel arweinydd y Ceidwadwyr, Boris Johnson, ddatgan hefyd ei fod am adael yr undeb.

Mae pum aelod o’i gabinet hefyd wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi’r bleidlais ‘Na’, ddyddiau’n unig ar ôl iddo sicrhau bargen ynglŷn ag aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rhai arbenigwyr hefyd wedi cwestiynu amseru’r refferendwm ar 23 Mehefin, gan ddweud ei fod yn rhy agos ar etholiadau datganoledig yng Nghymru a rhannau eraill o Brydain – yn ogystal â chael ei chynnal yn ystod Glastonbury ac Ewro 2016.