Allai refferendwm Ewrop arwain at ail bleidlais annibyniaeth yn yr Alban?
Mae arweinydd yr SNP yn Nhŷ’r Cyffredin wedi dweud y byddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn sicr o arwain at ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban.
Mynnodd Angus Robertson fod y farn gyhoeddus yn yr Alban yn cefnogi aros yn Ewrop, gan rybuddio’r Prif Weinidog David Cameron y byddai “goblygiadau” o dynnu’r Alban allan o’r undeb “yn erbyn ewyllys [yr] etholwyr”.
“Os fyddwn ni’n cael ein gorfodi allan o’r Undeb Ewropeaidd, rwy’n hollol siŵr y bydd y cyhoedd yn yr Alban yn mynnu refferendwm ar annibyniaeth yr Alban a byddwn yn diogelu ein lle yn Ewrop,” meddai.
Rhybuddiodd David Cameron rhag defnyddio tactegau “codi ofn” a gafodd eu defnyddio, yn ôl yr SNP, yn ystod yr wythnosau cyn refferendwm yr Alban yn 2014, er mwyn dychryn pleidleiswyr i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n gwneud achos cadarnhaol dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd a mynnodd mai pleidlais i’r Deyrnas Unedig gyfan oedd hon.