Allai'r ffaith bod miloedd i ffwrdd yng ngŵyl Glastonbury yn ystod y refferendwm ar Ewrop wneud gwahaniaeth i'r canlyniad? (llun: Steve Mack Smith)
Fe allai’r ffaith bod cannoedd o filoedd o bobol i ffwrdd yn Glastonbury ac Ewro 2016 yn ystod y refferendwm ar Ewrop wneud y gwahaniaeth os yw hi’n bleidlais agos.
Dyna farn un arbenigwr ar etholiadau ym Mhrydain, ar ôl i’r Prif Weinidog David Cameron gyhoeddi mai 23 Mehefin fydd dyddiad y bleidlais i weld a fydd y wlad yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd ai peidio.
Mae’r diwrnod hwnnw yn disgyn ar ddechrau penwythnos hir Glastonbury, gan olygu y gallai rhyw 150,000 o bobol fod i ffwrdd yn yr ŵyl gerddorol ac wedi gorfod anfon pleidlais bost o flaen llaw.
Byddai’r un peth yn wir am y nifer tebyg allai fod yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016 ar yr un pryd i wylio Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn y twrnament pêl-droed.
‘Amharu ar etholiad y Cynulliad’
Mae trefnwyr Glastonbury eisoes wedi dweud na fydd modd sefydlu canolfan bleidleisio ychwanegol yn yr ŵyl ar gyfer y refferendwm gan fod yn rhaid i bobol gofrestru gyda’u hawdurdodau lleol, a byddai’r un yn wir am Ewro 2016.
Ac mae’n un o sawl ffactor allai fod yn dyngedfennol i’r refferendwm petai’r bleidlais yn un agos, yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
Dywedodd yr arbenigwr ar etholiadau bod sawl rheswm i boeni am y dyddiad sydd wedi cael ei ddewis ar gyfer y refferendwm, gan gynnwys yr effaith ar etholiadau datganoledig fydd yn digwydd saith wythnos ynghynt.
Mae’n bosib y bydd y cyfnodau ymgyrchu ar gyfer y ddwy bleidlais hefyd yn creu problemau i ddarlledwyr wrth geisio cadw cydbwysedd.
Effaith Lloegr yn colli?
Fe allai hyd yn oed canlyniad yn Ffrainc gael dylanwad, gyda gemau grŵp Ewro 2016 yn dod i ben diwrnod y bleidlais ac felly posibilrwydd y bydd etholwyr o leiaf un o wledydd Prydain yn teimlo’n siomedig dychwelyd adref yn siomedig.
“Y rheswm olaf i boeni yw bydd pethau, yn arbennig Pencampwriaeth Ewrop yn y pêl-droed, yn mynd ymlaen, bydd miloedd o bobol i ffwrdd yn barod, a falle bydd canlyniad anffodus yn cael effaith ar y ffordd fydd pobl yn pleidleisio!” meddai Roger Scully wrth golwg360.
“Mae ‘na dal bobol yn y blaid Lafur sy’n rhoi’r bai am golli etholiad 1970 ar Peter Bonetti [y golwr pan gollodd Lloegr i’r Almaen yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno].”
Ffactorau bychan
Er ei bod hi’n annhebygol y bydd canlyniad y refferendwm yn dod lawr i ychydig filoedd o bleidleisiau, yn ôl Roger Scully, mae profiadau Cymru’n dangos bod hynny wastad yn bosib.
“Mae pobl Cymru dal yn siarad weithiau am y tywydd ar ddiwrnod refferendwm [datganoli] 1997,” meddai.
“Dw i’n cofio rhywun yn awgrymu bod y tywydd wedi bod yn well ar y diwrnod yn yr ardaloedd oedd wedi pleidleisio ‘Ie’ i’r ardaloedd oedd wedi pleidleisio ‘Na’, a falle bod e’n rhan o’r canlyniad.
“Felly os yw’r canlyniad [yn refferendwm Ewrop] mor agos ag oedd hi yn 1997 yng Nghymru, byddai’n bosib dweud am flynyddoedd ar ôl hynny, ‘oni bai am hyn, byddai wedi bod yn wahanol’.”