Byddai adeiladu gorsaf nwy ar safle hen waith brics Caernarfon yn arwain at “aflonyddwch sylweddol”, yn ôl aelod seneddol y dref.
Daeth ymgynghoriad cwmni Jones Brothers ar gyfer gorsaf nwy 20MW, fyddai’n rhoi trydan i’r Grid Cenedlaethol pan fo’r galw’n uchel, i ben fis diwethaf.
Eu bwriad nhw yw defnyddio hen Chwarel Seiont ar gyfer gweithfeydd i falu a phrosesu concrit hefyd.
Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaernarfon ers i Ddwyfor Meirionnydd ehangu, wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd yn nodi ei gwrthwynebiad.
Cyngor Gwynedd fydd â’r gair olaf ar y cais.
“Mae’r safle dan sylw mewn ardal sy’n cynnwys stad o dai preswyl poblog, ysgol, ysbyty, tir hamdden, ac ardal o goetir naturiol gwerthfawr,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’n gwbl anaddas ar gyfer datblygiad ar y raddfa hon ac o’r natur yma.
“Byddai’r datblygiad yn golygu aflonyddwch sylweddol o ran dymchwel yr isadeiledd presennol ac adeiladu strwythurau newydd a ffyrdd mynediad.
“Mae Caernarfon yn Safle Treftadaeth y Byd gyda chaer Rufeinig Segontiwm dim ond tafliad carreg o safle’r datblygiad arfaethedig.
“Nid yw’r cais hwn mewn unrhyw ffordd yn gydnaws ag apêl a statws unigryw’r dref.
“Mae gennyf bryderon sylweddol am y lefel trwm o draffig LGV a ragwelir a fydd yn mynd a dod o’r safle bob dydd – 15,147 lori LGV y flwyddyn.
“Bydd hyn yn achosi aflonyddwch sylweddol ac yn arwain at newid parhaol i’r ardal, yn ogystal â gwaethygu llygredd sŵn a’r amgylchedd.”
‘Argyfwng newid hinsawdd’
Mae’r safle’n agos at Ysbyty Eryri, Clwb Rygbi Caernarfon, Parc y Dre, Afon Seiont ac ardal boblogaidd o hen goed.
Hyd yn hyn, mae grŵp ymgyrchu lleol Caernarfon Lân wedi casglu dros 1,300 o lofnodion yn gwrthwynebu’r datblygiad.
“Mae ardal y coetir hynafol dynodedig, Parc y Dre ac Afon Seiont yn gartref i boblogaethau iach o fywyd gwyllt. Bydd y rhain, a’r bioamrywiaeth ehangach o blanhigion ac anifeiliaid yn cael eu heffeithio’n ddifrifol pe byddai’r datblygiad hwn yn cael ei ganiatáu,” meddai Liz Saville Roberts wedyn.
“Nid wyf wedi cael fy mherswadio mewn unrhyw ffordd y bydd y datblygiad hwn yn dod â budd parhaol ac ystyrlon i Gaernarfon, trigolion y dref, na’r economi leol.
“Yn wir, mae’r cais yn mynd yn groes i ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a thargedau hinsawdd Llywodraeth Cymru. Dylid ei daflu allan.”
Mae’r ddeiseb gan Caernarfon Lân yn codi pryderon am lygredd aer, llygredd sŵn, mwy o draffig, difrod i ecosystemau, bywyd gwyllt a bioamrywiaeth a chyfraniad tuag at newid hinsawdd.
“Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd byd-eang,” medd y ddeiseb.
“Byddai’r ffatri brig sy’n cael ei gynnig yn allyrru nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at newid hinsawdd ac yn hedfan yn wyneb targed Llywodraeth Cymru i Gymru gyrraedd 100% o’i defnydd trydan blynyddol o drydan adnewyddadwy erbyn 2035.”
‘Effaith fach iawn’
“I fanteisio’n llawn ar y gallu i gynhyrchu trydan mewn ffordd adnewyddadwy mae’r grid cenedlaethol angen pŵer wrth gefn i lenwi’r bwlch pan fydd cynhyrchiad gorsafoedd haul a gwynt yn isel,” meddai llefarydd.
“Ni fydd newid arwyddocaol i edrychiad y safle ac ni fydd y sŵn a gynhyrchir ddim uwch na’r sŵn ‘cefndir’ presennol.
“Ni fydd ond effaith fach iawn, neu ddim effaith o gwbl, ar yr ardal o amgylch.”