Mae grant sy’n darparu hyd at £200 i helpu gyda chostau gwisg ysgol a deunydd ysgrifennu ar agor nawr.

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i deuluoedd ar incwm is a’r rhai sy’n gymwys am fudd-daliadau penodol.

Bydd pob plentyn sy’n derbyn gofal hefyd yn gymwys i gael y grant.

Mae modd ei ddefnyddio i brynu hanfodion fel gwisg ysgol a deunydd ac offer ysgrifennu, ac mae pob dysgwr oedran blynyddoedd ysgol gorfodol yn gymwys, a gall teuluoedd hawlio’r grant unwaith yn ystod blwyddyn ysgol am bob plentyn.

Mae’n rhoi:

  • £125 y plentyn
  • £200 i blant sy’n dechrau ym Mlwyddyn 7

‘Cyfnod heriol’

Dywed Kathryn Matthews, Rheolwr Ysgolion Bro o Gastell-nedd Port Talbot, fod y cyfnod hwn yn “heriol” i lawer o bobol.

“Mae costau byw, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn, yn bryder mawr i lawer o deuluoedd.

“Mae teuluoedd yn dod atom ac yn dweud eu bod yn cyllidebu’n gyson er mwyn gallu sicrhau eu bod yn prynu’r wisg ysgol a’r offer sydd eu hangen ar blant yn yr ysgol.

“Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn helpu i leddfu peth o’r pryder a’r pwysau ariannol hwnnw.

“Gall teuluoedd ddefnyddio’r cynllun hwn i helpu i brynu unrhyw wisg ysgol neu offer sydd eu hangen, gan sicrhau bod pob plentyn yr un fath â’u cyfoedion.

“Mae hwn yn gynllun hynod ddefnyddiol i lawer o deuluoedd, a byddwn yn annog pawb sy’n gymwys i wneud cais.”

‘Cynyddu’r pwysau’

Ychwanega Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ei bod yn gwybod fod cost y diwrnod ysgol yn cynyddu’r pwysau ar deuluoedd.

“Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn gynllun hynod bwysig sy’n helpu i leihau’r pwysau hwnnw,” meddai.

“Mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu mynediad cyfartal at addysg, ac mae’r cynllun hwn yn helpu i gyflawni hynny drwy gael gwared ar y rhwystrau ariannol sy’n wynebu llawer o deuluoedd.”

Mae cynllun 2024-25 yn agored ar hyn o bryd, a bydd yn cau ar Fai 31.