Prin fod y mannau pleidleisio wedi cau ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyn i sylw troi at yr ornest fawr nesaf, etholiad y Senedd 2026.

Ac etholiad gwahanol i’r arfer fydd e hefyd.

Bu dadleuon ers tro nad oes digon o Aelodau gyda’r Senedd. Yr ateb, yn ôl Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, yw cynyddu nifer yr aelodau o’r 60 presennol i 96, a symud i system etholiadol (bron) hollol newydd.

Ein rôl yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yw defnyddio darpariaethau’r Ddeddf yn onest, yn deg ac yn dryloyw i ddatblygu’r set orau o etholaethau y gallwn mewn pryd ar gyfer etholiad 2026.

Dyma beth mae’r Ddeddf yn ei ddweud wrthym am yr etholaethau newydd:

  • Erbyn Ebrill 2025 rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gyflwyno ei Benderfyniadau Terfynol ar greu 16 o etholaethau newydd y Senedd.
  • Rhaid creu’r etholaethau hyn drwy baru’r 32 etholaeth seneddol (San Steffan) yng Nghymru.
  • Rhaid i bob etholaeth a argymhellir gan y Comisiwn fod yn gyffiniol. (Mwy am sut rydym yn dehongli hynny isod).

Cafodd y Canllaw i’r Arolwg ei gyhoeddi ar Orffennaf 19, ond fe fydd y tân gwyllt go iawn yn dechrau ym mis Medi, wrth i ni gyhoeddi ein Cynigion Cychwynnol. Er ein bod yn hyderus mai’r cynigion hyn fydd y dechrau gorau y gallwn ei wneud, mae’n sicr fod yna le i’w gwella.

Byddwn yn agor cyfnod ymgynghori pedair wythnos wedi i ni gyhoeddi’r cynigion ac yn ystyried pob barn. Erbyn mis Rhagfyr, ar ôl archwilio’r cynrychiolaethau gafodd eu derbyn yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol, bydd y Comisiwn yn barod i gyhoeddi ei Gynigion Diwygiedig, a bydd ail ymgynghoriad pedair wythnos yn agor.

Bydd hwn yn gyfnod pwysig, gan mai hwn fydd y cyfle olaf i bobol ledled Cymru effeithio ar y Penderfyniadau Terfynol. Hwn hefyd fydd cyfle olaf y Comisiwn i gasglu’r adborth sydd ei angen arnom i berffeithio’r Penderfyniadau Terfynol hynny.

Erbyn misoedd cyntaf 2025, byddwn yn brysur yn rhoi’r cyffyrddiadau olaf ar ein Penderfyniadau Terfynol, gan archwilio pob sylw gafodd ei dderbyn ar draws y ddau gyfnod ymgynghori. Disgwyliwn eu cyhoeddi, a chwblhau’r Arolwg ym mis Mawrth.

Sut, felly, fyddwn ni’n datblygu’r cynigion?

Mae’r Ddeddf yn rhoi cyfarwyddiadau i ni ar hyn. Byddwn yn ystyried sawl ffactor, gan gynnwys:

  • Daearyddiaeth

Rhaid i’r etholaethau fod yn gyffiniol wrth gwrs, ond byddwn hefyd yn ystyried nodweddion fel mynyddoedd, afonydd ac aberoedd.

Mae cysylltiadau ffordd hefyd yn arbennig o bwysig. Nid ydym yn ystyried bod dwy etholaeth yn gyffiniol os yw’n amhosibl teithio ledled etholaeth heb orfod ei gadael. Mae hwn yn bwynt hollbwysig, yn enwedig wrth i bobol gyflwyno eu cynigion amgen yn ystod yr ymgynghoriadau.

Mae’r dehongliad hwn yn golygu – spoiler alert! – na fyddwn yn cynnig paru Ynys Môn a Dwyfor Meirionnydd, er enghraifft, gan mai’r unig ffordd o deithio rhwng y ddau mewn car yw mynd drwy etholaeth Bangor Aberconwy.

  • Ffiniau Llywodraeth Leol

Lle bo modd, byddwn yn rhoi ystyriaeth i ffiniau llywodraeth leol. Yn yr achos hwn, mae hynny’n golygu ffiniau allanol prif gynghorau. Mae pobol yn uniaethu â’u sir, felly rydym am greu etholaethau sy’n teimlo mor naturiol â phosibl.

  • Cysylltiadau lleol

Beth sy’n wirioneddol bwysig i bobol wrth inni ddatblygu etholaethau?

Rydym wedi darganfod yn y gorffennol, efallai, mai daearyddiaeth gymdeithasol neu ddynol yw’r ffactor pwysicaf oll i bobol Cymru.

Mae cysylltiadau economaidd-gymdeithasol, y Gymraeg, a hanes ardal yn ystyriaethau hollbwysig wrth inni ddatblygu etholaethau, a lle bynnag y gallwn, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod cysylltiadau lleol yn cael eu parchu a’u cynnal.

Ni fydd y Comisiwn yn ystyried unrhyw effaith bosibl ar ganlyniadau etholiadau yn y dyfodol. Mater i bobol Cymru benderfynu arno fydd enillydd etholiad nesaf y Senedd ym mhob etholaeth, ac yn genedlaethol, ac ni allwn gymryd unrhyw ragamcanion i ystyriaeth.

Y realiti wrth greu 16 etholaeth drwy baru 32 sy’n bodoli eisoes, pan fo’n rhaid i bob un fod yn gyffiniol, yw bod yr opsiynau sydd ar gael inni yn gyfyngedig.

Er hynny, mae opsiynau amgen ar gael o hyd!

Edrychwn ymlaen at weld yr opsiynau amgen gaiff eu cynnig gan randdeiliaid a’r cyhoedd yn ystod ein hymgynghoriadau. Pwysig yw cofio y gall unrhyw beth yr ydym yn ei gynnig cael ei newid hyd at y Penderfyniadau Terfynol.

Enwau

Mae gan y Comisiwn dasg bwysig arall i’w chwblhau yn ystod yr Arolwg hwn lle mae’r opsiynau’n llawer llai cyfyngedig fodd bynnag: creu 16 o enwau.

Mae’r Ddeddf yn datgan y dylai fod gan bob etholaeth enw uniaith, oni bai na fyddai’r enw hwnnw’n dderbyniol yn y ddwy iaith. Os felly, dylem roi enw Cymraeg a Saesneg ar yr etholaeth.

Y confensiynau rydym yn eu dilyn ar gyfer ein Cynigion Cychwynnol yw pan fo enw (er enghraifft, enw sir neu siroedd) eisoes yn cael ei ddefnyddio’n eang ac yn briodol ar gyfer yr ardal gaiff ei chwmpasu gan etholaeth, y dylid rhoi blaenoriaeth iddo.

Lle nad oes opsiwn priodol, byddwn yn cyfuno enwau’r etholaethau seneddol mewn ffordd sy’n edrych ac yn swnio mor naturiol â phosibl, gydag enwau’n cael eu gosod yn nhrefn yr wyddor yn ôl y Gymraeg.

Rydym yn llwyr ddisgwyl, yn ystod ein dau ymgynghoriad, y byddwn yn derbyn nifer sylweddol o sylwadau ar yr enwau rydym wedi’u cynnig. Y gwir amdani yw, er ein bod yn fodlon bod yr enwau y byddwn yn eu cynnig yn briodol, nid ydym dan unrhyw gamargraff mai ni yw’r arbenigwyr ar enwau ledled Cymru.

Nid oes neb yn gwybod yr enw mwyaf priodol ar gyfer etholaeth yn well na’r rhai sy’n byw yno. Rydym yn agored, wrth gwrs, i awgrymiadau ar gyfer gwelliannau ar bob agwedd ar ein cynigion, ond er bod yr opsiynau yn gyfyngedig ar gyfer y cyfuniadau rydym yn eu datblygu, maent yn llawer mwy amrywiol o ran enwau.

Rydym wedi cyffroi i weld yr hyn mae pobol ledled Cymru yn ei gynnig, ar gyfer y paru ac ar gyfer yr enwau, ac rydym yn llwyr ddisgwyl y bydd ein cynigion yn cael eu cryfhau gan yr adborth a gawn.

Mae’r cyfnod cyn etholiad nesaf y Senedd yn mynd i fod yn un cyffrous, am fwy o resymau na’r arfer.

Cyhoeddi Canllaw i Arolwg 2026 o etholaethau’r Senedd

Bydd y Cynigion Cychwynnol ar gyfer 16 o etholaethau Senedd newydd Cymru yn cael eu cyhoeddi ar Fedi 3