Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi beirniadu toriadau i gludiant ysgol yng Nghaerffili, gan rybuddio eu bod yn tanseilio’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywed fod y Cyngor yn bwriadu newid y meini prawf ar gyfer cludiant ysgol am ddim i isafswm o ddwy filltir ar gyfer plant cynradd, yn lle’r 1.5 milltir presennol, ac i dair milltir i blant uwchradd yn lle’r ddwy filltir ar hyn o bryd.

Dywed fod y newid yn “siomedig”.

Bydd y mater yn mynd i’r Cabinet i’w ystyried cyn ymgynghoriad posib ym mis Medi, a gallai’r newidiadau gael eu cyflwyno fis Medi 2026.

‘Tanseilio’r Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’

“Mae hwn yn gam yn ôl gan y Cyngor Llafur, oherwydd bydd yn cyfyngu ar gyfleoedd addysgol i blant ar draws y fwrdeistref sirol ac ar draws pob math gwahanol o ysgolion,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Bydd yn arbennig o niweidiol i deuluoedd heb gar.

“Mae’n anochel y bydd teuluoedd sydd â’r lleiaf yn cael eu heffeithio yn waeth.

“Gall y newidiadau arfaethedig hefyd olygu na fydd plant yn gallu dechrau neu barhau ag addysg mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg oherwydd bod gan ysgolion o’r fath ddalgylch mwy, sy’n golygu nad nhw yw’r ysgol ‘leol’ yn aml i lawer o’u disgyblion.

“Mae’r Cyngor Llafur yn tanseilio cynlluniau eu plaid eu hunain mewn llywodraeth i sefydlu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Mae’n ffaith syml y bydd cerdded mwy na dwy filltir yn y glaw a’r gwynt yn digalonni hyd yn oed y disgyblion mwyaf ymroddedig.

“Mae hyn yn siomedig gan y cyngor Llafur – bydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r mesurau hyn yn gryf.”