Mae 53% o drigolion Catalwnia yn gwrthwynebu annibyniaeth, a dim ond 40% sydd o blaid, yn ôl arolwg gan asiantaeth CEO, sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Catalwnia.
Dyma’r ganran uchaf yn erbyn annibyniaeth ers i’r arolygon ddechrau yn 2015, a’r gwahaniaeth mwyaf hefyd yn y canrannau o blaid ac yn erbyn, sydd erioed wedi bod yn fwy nag unarddeg pwynt canran.
Cafodd 2,000 o bobol eu holi rhwng Mehefin 10 a Gorffennaf 8.
Fe fu mwy o wrthwynebiad na chefnogaeth ers 2019, tra bod y gwrthwyneb yn wir rhwng 2015 a 2018.
Dydy’r ffigwr o blaid heb godi dros 45% dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Ymhlith cefnogwyr Junts per Catalunya mae’r gefnogaeth fwyaf (91%), ac wedyn CUP (80%) ac Esquerra Republicana (75%).
Dim ond 56% o bleidleiswyr Aliança Catalana yn yr etholiad diwethaf sydd o blaid annibyniaeth.