Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi’r Canllaw i Arolwg 2026 o etholaethau’r Senedd heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 19).

Mae’r Canllaw yn nodi’r dyddiadau allweddol ar gyfer yr Arolwg, yn egluro’r ffordd y bydd y Comisiwn yn datblygu’r etholaethau newydd, ac yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut y gall aelodau’r cyhoedd lunio’r cynigion.

Bydd y Cynigion Cychwynnol ar gyfer 16 o etholaethau Senedd newydd Cymru yn cael eu cyhoeddi ar Fedi 3, gyda chyfnod ymgynghori o bedair wythnos yn agor ar unwaith ac yn cau ar Fedi 30.

Bydd Cynigion Diwygiedig yn dilyn ym mis Rhagfyr, gydag ail ymgynghoriad pedair wythnos yn rhedeg tan ganol mis Ionawr.

Mae Penderfyniadau Terfynol y Comisiwn yn debygol o gael eu cyhoeddi fis Mawrth nesaf, a byddan nhw’n dod i rym yn awtomatig yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

Rhaid ffurfio’r 16 etholaeth sy’n cael eu cynnig gan y Comisiwn drwy baru 32 etholaeth seneddol (San Steffan) Cymru, a rhaid i etholaethau mewn parau fod wedi ffinio â’i gilydd.

Ystyriaethau

Bydd y Comisiwn yn ystyried daearyddiaeth fel mynyddoedd, afonydd ac aberoedd yn ei gynigion, gyda’r Comisiwn yn dehongli mai dim ond etholaethau â chysylltiadau ffordd uniongyrchol sy’n cydgyffwrdd mewn gwirionedd.

Dydy etholaethau sy’n ffinio â’i gilydd ar fap, ond y mae’n amhosibl teithio rhyngddyn nhw heb basio trwy drydedd etholaeth, ddim yn cael eu hystyried yn gyffiniol, ac felly fyddan nhw ddim yn cael eu paru gan y Comisiwn.

Bydd y Comisiwn hefyd yn ystyried ffiniau llywodraeth leol lle bo’n bosibl, ac yn ceisio cynnal cysylltiadau lleol wrth baru’r 32 etholaeth.

Fodd bynnag, fydd y Comisiwn ddim yn ystyried yr effaith ar ganlyniadau etholiadau yn y dyfodol wrth ddatblygu ei gynigion.

Bydd hefyd yn cynnig enwau ar gyfer pob etholaeth, gydag un enw uniaith lle’n bosib, ac enwau Cymraeg a Saesneg ar wahân yn cael eu defnyddio lle bo angen.

Bydd enwau ardaloedd sydd eisoes yn cael eu defnyddio’n gyffredin yn cael eu dewis lle bo’n briodol, a chaiff enwau etholaethau presennol eu defnyddio mewn mannau eraill.

Lle caiff enwau etholaethau seneddol presennol eu defnyddio, bydd y Comisiwn yn rhestru’r enwau yn nhrefn yr wyddor yn ôl y Gymraeg.

‘Cyffrous’

“Mae democratiaeth ddatblygol Cymru ar bwynt cyffrous yn ei hanes ac mae’n bleser gan y Comisiwn lansio’n swyddogol Arolwg 2026 o etholaethau’r Senedd,” meddai Shereen Williams, Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

“Mae adborth y cyhoedd yn ganolog i’n gwaith felly edrychwn ymlaen at weld ymatebion o bob rhan o Gymru nid yn unig ar yr ymarfer paru ar gyfer yr etholaethau newydd, ond ar gyfer eu henwau arfaethedig hefyd.

“Byddem yn annog pawb i ddarganfod mwy am yr Arolwg cyn i ni gyhoeddi ein Cynigion Cychwynnol drwy fynd i cdffc.llyw.cymru a darllen ein Canllaw i’r Arolwg.”

Nid oes neb yn gwybod yr enw mwyaf priodol ar gyfer etholaeth yn well na’r rhai sy’n byw yno

Shereen Williams

Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru sy’n trafod y newidiadau arfaethedig