Mae adroddiad hirddisgwyliedig cyntaf yr Ymchwiliad Covid-19 wedi’i gyhoeddi I’r byd a’r betws heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 18).
Mae’r adroddiad 217 o dudalennau, Saesneg-yn-unig, yn trafod ‘cadernid a pharodrwydd’ llywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r gwledydd datganoledig ar gyfer y pandemig.
Mae’n nodi bod gwendidau sylfaenol ym mharatoadau’r Deyrnas Unedig yn golygu bod Covid wedi achos llawer mwy o farwolaethau a llanast economaidd nag y dylai.
Dywed fod y Deyrnas Unedig wedi paratoi ar gyfer y pandemig “anghywir”, sef math newydd o ffliw, ac nad oedd y wlad wedi ystyried mesurau fel cyflwyno rheoliadau teithio llym na system olrhain cysylltiadau mewn da bryd, fel gwledydd eraill.
Cafodd y system yng Nghymru ei beirniadu fel un “labyrinth” o gymhleth, ac roedd cyfeiriad at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar argyfyngau sifil posibl yn 2012, oedd wedi rhybuddio’r hyn oedd i ddod:
“Not much had been done in the meantime by the Welsh Government to simplify, streamline and rationalise the entities charged with leading and administering emergency preparedness in Wales.”
Ymateb y gwrthbleidiau
Mae gwrthbleidiau Bae Caerdydd lawn mor feirniadol.
Dywed Mabon ap Gwynfor, llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Dylai Llywodraeth Cymru nid yn unig gyfaddef i’w methiannau sylweddol ond ymrwymo i weithredu argymhellion modiwl 1 yn llawn gyda chynllun manwl i sicrhau na fydd Cymru fyth mor barod ar gyfer pandemig byth eto,” meddai.
“Nid yw’n rhy hwyr ychwaith i ymrwymo i ymchwiliad Covid penodol i Gymru, sef y ffordd gorau o ddal Llywodraeth Cymru yn atebol am ei holl benderfyniadau.”
Ategu’r alwad am ymchwiliad penodol i Gymru wnaeth Sam Rowlands, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae’r adroddiad hwn yn gyhuddiad damniol o’r modd wnaeth Llafur ymdrin â’r pandemig,” meddai.
“Yn amlwg ni chafodd yr Ymchwiliad ei argyhoeddi gan rywfaint o’r dystiolaeth a roddwyd.
“Dim ond trwy Ymchwiliad penodol i Gymru y gallwn sicrhau bod y gwersi hyn yn cael eu dysgu a’n bod yn barod ar gyfer argyfyngau iechyd cyhoeddus yn y dyfodol.”
Geiriau Gething
Croesawu’r adroddiad wnaeth y Prif Weinidog Vaughan Gething, mewn datganiad ysgrifenedig.
“Mae’r cyhoeddiad yn foment bwysig i deuluoedd yng Nghymru sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i Covid-19, ac i staff y rheng flaen a weithiodd mor galed yn ystod y pandemig i’n cadw ni i gyd yn ddiogel,” meddai.
Awgrymodd fwy o gydweithio at y dyfodol.
“Rydym yn croesawu argymhellion yr Adroddiad ac edrychwn ymlaen at gydweithio mewn partneriaeth gyfartal â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig eraill wrth ymateb iddynt.
“Rydym wedi bod yn ymrwymedig bob amser i weithio’n agored ac mewn modd adeiladol gyda llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig ac rydym yn awyddus i adeiladu ar hyn mewn ymateb i’r adroddiad.
“Bydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 y Senedd yn awr yn craffu ar yr adroddiad.
“Bydd yn cyflwyno i’r Senedd, drwy gynnig, unrhyw fylchau gafodd eu nodi yn adroddiad yr Ymchwiliad i’r parodrwydd ar gyfer y pandemig ac i’r ymateb y mae’n credu y dylid ymchwilio iddyn nhw ymhellach.
“Swyddogaeth seneddol i’r Senedd i’w hystyried yw hon”.
Vaughan Gething oedd Gweinidog Iechyd Cymru ar y pryd.