Mae’r Blaid Werdd yng Nghymru yn galw am ddiddymu dedfrydau i brotestwyr heddychlon, ar ôl i nifer o brotestwyr amgylcheddol gael dedfrydau o garchar am eu rhan ym mhrotestiadau Just Stop Oil.
Daeth pump o brotestwyr â thraffordd yr M25 i stop am bedwar diwrnod yn 2022, ac fe wnaeth 45 o bobol ddringo ar strwythurau’r draffordd fis Tachwedd 2022 er mwyn atal y traffig.
Yn ôl y barnwr Christopher Hehir yn Llys y Goron Southwark yn Llundain, roedd Roger Hallam (58), Daniel Shaw (38), Louise Lancaster (58), Lucia Whittaker De Abreu (35) a Cressida Gethin (22) “wedi croesi llinell”.
Cafodd Hallam ddedfryd o bum mlynedd o garchar, tra bod y gweddill wedi’u carcharu am bedair blynedd.
Galw am wyrdroi’r dedfrydau
Mae’r Blaid Werdd yng Nghymru’n galw am wyrdroi’r dedfrydau, gan ddweud eu bod nhw’n rhy hallt.
“Rhaid dileu cyfreithiau sy’n galluogi dedfrydau mor hir am brotest heddychlon,” meddai Linda Rogers, dirprwy arweinydd y blaid.
“Dylid gwyrdroi’r dedfrydau hyn.
“Fydd penderfyniadau cosbol mor frawychus ddim yn atal protestiadau yn y dyfodol.
“Cyhyd ag y bo’r cyfreithiau hyn yn eu lle, maen nhw’n gwarchod llywodraethau rhag gorfod gwneud y newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.”