Os ydi gwleidyddion yn America yn benderfynol o ddiogelu penrhyddid i bawb brynu dryllau milwrol pwerus, does ganddyn nhw neb ond nhw’u hunain i’w feio os bydd gwallgofddyn yn tanio arfau o’r fath tuag atyn nhw…


Dydi dihangfa wyrthiol Donald Trump yr wythnos ddiwethaf yn newid dim ar y ffaith ei fod yn ddihiryn cwbl ddiegwyddor sydd â’i fryd ar ddinistrio democratiaeth America.

Ni ddylai’r ymgais aflwyddiannus i’w saethu adael i neb anghofio’r ffordd yr ymosododd ei gefnogwyr ar y Capitol yn Washington ym mis Ionawr 2021.

Roedden nhw’n gweiddi am grogi’r Is-Arlywydd Mike Pence am wrthod camddefnyddio’i rym i gadw Donald Trump yn ei swydd ar ôl colli’r etholiad. Mae’n amlwg ei fod yn cymeradwyo eu hymddygiad gan na wnaeth erioed eu beirniadu.

Mae rhai o’i gefnogwyr bellach â’r hyfdra i gyhuddo’r Democratiaid o annog trais yn ei erbyn am ddweud y gwir am y bygythiad mae’n ei achosi i’w gwlad.

Y gwir amdani ydi mai wedi ymddwyn yn llawer rhy oddefgar tuag ato mae’r rhan fwyaf o’i wrthwynebwyr gwleidyddol wedi’i wneud dros y pedair blynedd diwethaf – pan mae o wedi eu trin nhw fel gelynion. Un o’r themâu mwyaf cyson yn yr ymateb gan bron bawb i’r digwyddiad ydi dadlau’r angen am ostwng y tymheredd gwleidyddol ac ar i wleidyddion ddangos mwy o barch at ei gilydd.

Mae hyn ynddo’i hun yn nod digon cymeradwy, cyn belled â bod rhywun yn cofio mai cefnogwyr Trump a’i ymgyrch MAGA (Make America Great Again) sy’n gyfrifol am gychwyn a lledaenu’r casineb yn y lle cyntaf.

Naïfrwydd o’r mwyaf, fodd bynnag, ydi credu y byddai mwy o barch a chwrteisi rhwng gwleidyddion a’i gilydd yn gallu rhwystro asasin rhag ceisio llofruddio gwleidyddion blaenllaw ac amlwg.

Mae’n gwbl anochel, yn enwedig mewn gwlad â phoblogaeth o fwy na 300m, y gall fod, ar unrhyw adeg, rhywun â’i fryd ar lofruddio un o’i harweinwyr. Dyna pam fod angen gwasanaethau cudd fel y Secret Service i’w diogelu, a dyna pam fod trefniadau trylwyr i ddiogelu unrhyw arlywydd am weddill ei oes.

Mae pob gwlad, gan gynnwys y gwledydd lleiaf a’r rhai mwyaf sefydlog a chymodlon yn wleidyddol, yn gorfod darparu gwasanaethau diogelwch o’r fath i’w harweinwyr. Waeth pa mor waraidd yw hinsawdd gwleidyddol unrhyw wlad, gall gwallgofddyn gymryd yn ei ben i geisio llofruddio eu gwladweinwyr. Gwelwyd enghraifft amlwg o hyn yn yr 1980au pan gafodd prif weinidog Sweden, Olaf Palme – gwleidydd hynod o uchel ei barch yn un o’r gwledydd mwyaf heddychlon yn y byd – ei lofruddio.

Nid yw peryglon o’r fath wedi eu cyfyngu i wleidyddion chwaith, pan gofiwn am yr hyn ddigwyddodd i sêr rhyngwladol fel John Lennon.

Diffyg rheolaeth ar ddryllau

Does neb yn gwybod beth yn union oedd cymhellion y dyn ifanc saethodd at Donald Trump nos Sadwrn ddiwethaf. Does dim sicrwydd fod ei gymhellion yn rhai gwleidyddol hyd yn oed ac mae’n bosib na fyddwn fyth yn gwybod.

Cwestiwn pwysicach o lawer i’w ofyn ydi pam fod bachgen 20 oed wedi cael gafael mor rhwydd ar ddryll milwrol mor bwerus. Faint bynnag mor benderfynol y byddai o gyflawni anfadwaith, byddai pen draw i’r hyn y gallai ei wneud pe bai’n fwy anodd iddo gael yr arfau angenrheidiol.

Dyna ydi’r amgylchiadau sy’n gwneud America’n wahanol i bron bob gwlad arall sydd â threfn wleidyddol ddatblygedig.

A’r gwir na ellir ei osgoi ydi mai Trump a’i debyg sydd wedi bod uchaf eu cloch yn erbyn unrhyw gyfyngu ar y penrhyddid disynnwyr sydd yn y wlad i gaffael dryllau.

Pryd bynnag mae gwallgofddyn yn torri i mewn i ysgol a lladd dwsinau o blant diniwed mae cefnogwyr Trump yn dangos difaterwch llwyr. Un o’r grymoedd mwyaf pwerus yn y wlad yw’r NRA (National Rifle Association) ac i unrhyw un sydd yn eu poced, mae’r hawl i fod ag arfau yn bwysicach iddyn nhw na bywydau unrhyw blant. Tybed ydyn nhw’n credu fod yr hawl i arfau hefyd yn fwy sanctaidd hyd yn oed na bywyd eu harwr mawr? Yn sicr mae angen eu herio’n ddidrugaredd i ateb cwestiwn o’r fath.

Mae pob seneddwr sydd wedi gwrthod unrhyw fesurau i gyfyngu ar arfau milwrol o’r fath wedi cyfrannu at greu’r amgylchiadau a’i gwnaeth yn haws i beryglu bywyd Donald Trump.

A chan ei fod ef ei hun yn eu plith, mae yntau hefyd o leiaf yn rhannol gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd iddo. Anodd felly gweld pam ei fod yn haeddu gronyn o gydymdeimlad.

Perygl gwirioneddol

Y peth gwaethaf bosibl y gallai’r Democratiaid a gwrthwynebwyr Donald Trump ei wneud fyddai dal yn ôl rhag dweud y gwir am y perygl gwirioneddol mae’n ei achosi.

Mae’r cyn-arlywydd yn sicr o geisio manteisio i’r eithaf ar ei ddihangfa. Un o’i driciau fydd rhoi’r argraff o fod bellach yn gymeriad ychydig yn fwy cymodlon a bod ei fryd ar uno’r wlad.Fel un sydd wedi seilio’i holl yrfa wleidyddol ar gelwyddau noeth, gallwn fod yn sicr na fydd y llewpard yn newid ei frychni yn yr achos hwn.

Roedd sefyllfa’r Democratiaid eisoes yn fregus gyda Joe Biden yn amlwg yn colli gafael a heneiddio’n gyflym, ac mae’r ymgais aflwyddiannus i saethu Trump yn digwydd ar adeg trychinebus iddyn nhw. Os nad ydyn nhw’n gweithredu ar frys i ymladd yn galetach a mwy effeithiol fydd dim gobaith. Dylai fod yn amlwg hefyd nad oes ganddyn nhw ddim oll i’w golli bellach drwy osod ymgeisydd newydd yn lle Joe Biden.

Does dim amheuaeth mai eu camgymeriad mwyaf oedd na wnaethon nhw daro’n ôl yn hanner ddigon caled yn erbyn Trump a’i gefnogwyr dros y pedair blynedd ddiwethaf. Roedd ei ymgais i wrthdroi’r etholiad diwethaf yn ddigon o reswm dros droi pob carreg i’w rwystro rhag bod yn ymgeisydd byth eto. Roedd yn gwbl amlwg o’r cychwyn nad oedd Trump yn rhywun a fyddai’n chwarae yn ôl y rheolau, ac felly bod angen ymladd yr un mor filain a diegwyddor yn ei erbyn. Gall eu methiant i wneud hyn arwain at drychineb mawr i America ac i weddill y byd.

Cwlt personoliaeth

Ymysg y pethau mwyaf brawychus ynghylch Trump mae’r gefnogaeth gwbl orffwyll y mae’n ei ennyn ymysg ei gefnogwyr mwyaf pybyr. Mae cwlt personoliaeth yn rhywbeth peryglus ar y gorau, ond pan ystyriwn sut fath o bobol ydi rhai o’i gefnogwyr mae’n fwy bygythiol fyth. Yn eu plith mae carfannau cwbl wallgof fel QAnon sy’n credu bod y byd yn cael ei reoli gan gnewyllyn cudd o bedoffiliaid o dan arweiniad Hilary Clinton a bod y rhain yn bwyta babanod hefyd. Mae’r rhain yn bobol yn yr un categori â rhai o’r nytjobs crefyddol fel a gafwyd yn Waco, Texas, yn yr 1990 pryd y cafodd cannoedd eu lladd. Neu ag eithafwyr ffwndamentaidd Islamaidd mewn rhannau eraill o’r byd o ran hynny.

Mae’n wir nad yw Trump ei hun yn rhannu daliadau rhai o’i gefnogwyr mwyaf gwallgof, er mai digon cyndyn mae wedi bod i’w collfarnu. Ar y llaw arall, mae wedi bod yn gwbl agored yn ei gyfeillgarwch ac edmygedd o unbeniaid peryglus fel Vladimir Putin ac wedi lletya Jair Bolsonaro, cyn-arlywydd gwaedlyd Brasil, oedd yn ymhyfrydu mewn treisio coedwigoedd yr Amazon. Dydi Donald Trump erioed wedi rhoi rheswm dros inni gredu na fyddai’n ceisio tanseilio democratiaeth America os caiff ei ethol, ac mae’r ffordd y llanwodd y Goruchaf Lys â’i gynffonwyr yn dangos ei ffordd o weithredu.

Effaith ryngwladol

Fel gwlad fwyaf pwerus y byd, mae unrhyw fygythiad i ddemocratiaeth America yn mynd i fod ag arwyddocâd byd-eang. Gallai parodrwydd Trump i danseilio ymdrechion Wcráin yn erbyn Putin, agor y drws iddo ymosod ar wledydd eraill yn Ewrop. Mae hefyd yn amlwg ym mhoced y corfforaethau mawr, fydd yn cael mwy fyth o benrhyddid.

Truenus, ond nid annisgwyl, oedd gweld Nigel Farage, Boris Johnson a Liz Truss yn rhuthro i Milwaukee, Wisconsin, yr wythnos yma i blygu glin gerbron yr Ymerawdwr Trump. Gwaeth na hyn oedd gweld gweinidogion Llafur yn mynd allan o’u ffordd i ymgreinio iddo a phwysleisio mor hapus y bydden nhw o gydweithio pe bai’n cael ei ethol. Hyd yn oed ar ôl i J.D. Vance, ymgeisydd fel Dirprwy Arlywydd i Trump, fynegi pryderon am Brydain yn troi’n wladwriaeth Islamaidd, rhoi esgusodion ar ei ran mae gweinidogion Llafur wedi’i wneud.

Yr hyn sydd angen i lywodraeth Keir Starmer ei wneud ar adeg fel hyn ydi manteisio ar anwadalwch gwleidyddol America fel cyfle i wthio i ail-greu cysylltiadau â gweddill Ewrop. Gyda’u mwyafrif anferth, mae ganddyn nhw gyfle gwell nag erioed i wneud hyn. Ac os ydi Nigel Farage yn benderfynol o iselhau ei hun i fod yn gi bach i Trump, gadewch iddo ddenu gwawd ato’i hun a’i blaid a holl gefnogwyr Brexit wrth wneud hynny.