Ychydig fisoedd yn ôl, darganfuwyd memrwn arbennig iawn yng nghyffiniau Nasareth. Mae’r memrwn yn dyddio o ganol yr ail ganrif. Mae ynddo gopi o Efengyl Marc a llawysgrif gwbl newydd mewn Aramaeg syml, ddiaddurn. Dogfen fer yw hi, ond ni ddylid cymysgu swm a sylwedd â’i gilydd. Yn ôl yr arbenigwyr, nid maint sy’n penderfynu gwerth y ddogfen hon. Hanfod arwyddocâd y ddogfen yw’r enw, neu’r enwau sydd yn gydiol wrthi, sef Miriam, Iesu a Nasareth. Er nad yw pob ysgolhaig yn gytûn, mae nifer cynyddol o ysgolheigion yn barod i ddatgan mai Miriam, chwaer Iesu o Nasareth, yw awdures y llawysgrif hon. Maen nhw’n cytuno mai copi o gopi o gopi yw’r llawysgrif – mae’r llythyr gwreiddiol wedi hen ddiflannu. Mae’r llawysgrif, gaiff ei adnabod fel ‘Llythyr Miriam’, yn agor cil y drws i ni ar y blynyddoedd dreuliodd Iesu gartref yn Nasareth. Gwyddom iddo dreulio’r rhan fwyaf helaeth o’i oes yn y pentref; eto, prin iawn yw’r wybodaeth sydd gennym am y cyfnod hwnnw.
Yn hytrach na’r golofn arferol, felly, dw i am rannu cyfieithiad bras o Lythyr Miriam.
Fe’m ganed mewn pentref yng nghysgod bryniau Sabulon a Nafftali. Oddi yno, gellid gweld rannau helaeth o Alilea. Draw wrth droed un o’r bryniau, roedd y briffordd o’r Aifft i’r Dwyrain yn dolennu heibio, a phob math o bobol yn teithio hyd-ddi: gwehilion a lladron, brenhinoedd a byddinoedd. Myfi, Miriam, yw’r ieuengaf o saith o blant. Bu farw fy nhad yn gymharol ifanc, gan adael fy mam yn weddw ynghanol ei phlant. Gorffwysodd beichiau’r aelwyd o’r herwydd ar ysgwyddau fy mrawd hynaf. Wedi marw fy nhad, roedd yn anodd ar y teulu, ac mae teulu cyfyng ei amgylchiadau yn gorfod byw yn glos, byw i’w gilydd a byw yn eofn ar ei gilydd. Bu dylanwad ein mam yn drwm arnom, un ac oll. Fe gaiff fy mrawd hynaf ei adnabod fel y Nasaread.
O feddwl am ein mam, cofiwch chi Nasareaid – enw ar y Cristnogion cynnar – am ei fynych gyfeiriadau at wragedd gweddwon; atgofion ydyn nhw o’i gartref ef ei hun. Gwin a chostrel, gwnïo’r clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; gwyfyn a rhwd, canwyllbrennau; hadau mwstard; surdoes a lefain, gwleddoedd; bara; darn arian colledig; trysorau newydd a hen; y cyfan oll o’i brofiad adref yn Nasareth. Bu’n sôn hefyd am ryw gymydog esgeulus ar hanner nos yn curo’n daer wrth y drws, ac yn deffro pawb – y plant a’r anifeiliaid – a’r cyfan oll am nad oedd digon o fara ganddo ar gyfer cyfaill a ddaeth heibio gefn nos. Dyna’n union a wnaeth Benjamin y crydd i deulu Samuel yn Nasareth. Gwyddai’r pentref yn gyfan am y tŷ lle’r oedd dau o feibion ffôl yn boen i’w tad. Roedd hen dŷ yn yr ardal gafodd ei adael yn wag. Tŷ y gwyddem yn iawn amdano fel plant, tŷ ag ysbryd drwg ynddo a’r lle yn ddychryn inni. Câi bwydydd ei sylw wrth ddysgu, a phrisiau’r farchnad: pris adar y to a’r fargen ynglŷn â’r un bach dros ben. Trwy’r cyfan, edrychwch ac fe welwch y gegin fach brysur yn Nasareth, a’r ffordd y troes digwyddiadau syml aelwyd a phentref cyffredin yn obaith i’w gyhoeddi i holl bobol Dduw.
Mewn cylch cyfyng felly y treuliodd eich Nasaread ei flynyddoedd cynnar. Tyfu’n naturiol, a rhoi’r cwbl oedd ynddo i wasanaethu ei deulu a’i bentref. Deunaw mlynedd a rhagor o wasanaeth, o fyfyrdod a gweddi, y cwbl yn guddiedig o’ch golwg. Mor wahanol, yn enwedig o’i gymharu â thymor byr eich adnabyddiaeth chi ohono. Roedd bod yn barod yn pwyso lawer mwy ar ei feddwl na pha bryd i gychwyn ar y gwaith o achub y byd.
Heblaw am ei gartref, bu bywyd y gweithdy hefyd yn Nasareth yn ddylanwad arno a’i weinidogaeth. Credai pob tad o Iddew mewn rhoddi crefft yn llaw ei feibion. Seiri oedd fy nhad, a’m brodyr. Crefftwyr uchel eu parch. Hwythau gododd rai o dai gorau’r pentref. Mewn caledwaith o’r fath, yng nghanol naddion, blawd llif a’r celfi roedd ei grefft yn tynnu ohonyn nhw gorau corff a meddwl. Buom yn byw mewn cyfnod a ystyrid ym Mhalestina yn oes euraid adeiladwaith. Cafodd y Nasaread lawer darlun, delwedd a chyffelybiaeth o’i weithdy: cymerwch fy iau arnoch; fe wnaeth gannoedd o ieuoedd, y brycheuyn a’r trawst; … nid oes neb yn rhoi ei lawr ar yr aradr. Fe wnaeth gannoedd o erydr pren, pob un â chwlltwr haearn. Gosododd urddas ar waith dwylo pobol. Ei bulpud cyntaf oedd mainc y saer. Yn ei weithdy, diflannai pob gwahaniaeth rhwng y cyffredin a’r cysegredig. Yn wir, nid oedd dim yn gyffredin yng ngolwg fy mrawd. Gyda’i gŷn a’i forthwyl, cyflawnai ewyllys ei dad a Duw bob dydd. Fy mywyd i, meddai’n ddiweddarach mewn bywyd, yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’n hanfonodd, a gorffen ei waith. Wrth feistroli ei grefft, a gofalu am ei fam a’r aelwyd, byddai e’n ymdaflu i’w weinidogaeth feunyddiol. Ffordd wych o gynyddu mewn doethineb yw ymgolli yng nghymdeithas rhai gwahanol i ni’n hunain. Cymdeithas sy’n rhoi min ar feddwl person. Dysgodd Iesu ddweud stori yn y gweithdy. Clywodd eraill wrthi, gan sylwi ar bopeth. Pan adawodd Nasareth i wynebu cylchoedd ehangach, cynefin ydoedd â ffyrdd pobol. Fe fyddai’n adnabod ei Dad yn well wrth adnabod pobol. Nid oedd arno angen tystiolaeth neb ynglŷn â’r ddynolryw; yr oedd ef ei hun yn gwybod beth oedd mewn dynion.
Bu Synagog Nasareth yn hyfforddiant gwirioneddol iddo hefyd. Roedd barn a disgyblaeth y Synagog dros fywyd y pentref i gyd. Hon oedd ei ysgol yntau o’i febyd. Ers yn fachgen, dysgai barchu a gwerthfawrogi’r Ysgrythurau. Dysgai am Dduw o flaen popeth arall. Dechreuodd gyda’i wersi ar lin ein mam. Daliodd ati dan addysg ein tad a dod i wybod am wroniaid ei genedl – Abraham, Moses, Eseia, Jeremeia, Eseciel, a’r Salmyddion. Dyna oedd gorchymyn y Gyfraith i’w rieni: Yr wyt i’w hadrodd i’th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi’n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi’n mynd i gysgu ac yn codi. Yn synagog Nasareth ddechreuodd Iesu bregethu.
Wedi gadael Nasareth, bu farw fy mrawd. Rwyf yn chwaer i ŵr croeshoeliedig. Ceisiwch ddychmygu beth oedd y Groes i mi. Profedigaeth deuluol chwerw a gwarthus. I feddwl bod un o’n teulu ni wedi marw fel dihiryn. Sut y gallwn godi fy mhen, eto chwaer i un croeshoeliedig fyddaf byth mwy? Ond y gwarth yn agoriad llygad. Wedi i mi golli fy mrawd, sylweddolais gystal brawd ydoedd mewn gwirionedd, a brawd mewn ystyr ddyfnach na pherthynas cig a gwaed.
Mae’r llawysgrif yn diweddu gyda’r frawddeg hon.
Onid oes eisiau’r Efengyl yn ôl Miriam arnom heddiw, yr Efengyl sy’n rhoi brawd i ni? Cytuna seicolegwyr a chymdeithasegwyr mai unigrwydd yw problem pobol heddiw. Er gwaetha’r ffaith ei fod yn nes at eraill mewn ystyr ddaearyddol nag erioed o’r blaen, er gwaetha’r ffaith fod ein byd wedi mynd cyn lleied â chymdogaeth Nasareth ‘slawer dydd, mae pobol yn unig. Er mwyn cael eli i ddolur ein hunigrwydd, rhaid wrth rywbeth amgenach, mwy personol, mwy cynnes agos-atom na diwinyddiaeth haniaethol am Dadolaeth Duw a Brawdgarwch Dyn. Rhaid wrth sicrwydd fod gennym frawd:
Hosanna fyth! Mae gennyf Frawd,
Sy’n cofio’r tlawd a’i gwynion.
Nid pregethu brawdoliaeth yn unig wnaeth Iesu, ond dod yn frawd, uniaethu ei hun â’n cyflwr, a dod i berthynas barhaol â ni.
Gofidio fyddwn ni weithiau am nad oes gennym ddogfen fel llythyr Miriam – llythyr yn dangos, yn profi bod Iesu’n real. Gadewch i’r efengyl yn ôl Miriam ein dadrithio. Fe allwn ninnau hefyd ei weld, ei weld yn ein brodyr a’n chwiorydd, a’i gael ynddyn nhw a thrwyddyn nhw yn frawd. Pwy bynnag, meddai Iesu, pwy bynnag sy’n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw’n frawd, a honno’n chwaer i mi.