Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Amanda Davies sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r gyfres Garddio a Mwy ar S4C.

Mae Amanda Davies yn byw ger Stratford upon Avon. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd gyda Popeth Cymraeg.


Amanda, beth yw dy hoff raglen ar S4C?

Garddio a Mwy ydy fy hoff raglen ar S4C. Y peth  gwaethaf am arddio ym mis Gorffennaf ydy bod yn rhaid i chi stopio tua  9.30yh, tipyn cyn machlud haul. Ond ry’n ni’n lwcus iawn bod Garddio a Mwy ar gael ar BBC iPlayer ac ar S4C Clic. Fel arfer maen nhw’n darlledu’r rhaglen ar Ddydd Llun am 8.25yp.

Pam wyt ti’n mwynhau’r gyfres?

Pan dach chi ddim yn gweithio yn eich gardd eich hun, beth sy’n well nag edrych ar ardd rhywun arall i gael ysbrydoliaeth ac anogaeth?

Dw i’n gwerthfawrogi bod gan Garddio a Mwy deimlad modern  efo diddordeb mewn popeth organig. Maen nhw’n son am “permaculture” a thyfu bwyd mewn ardaloedd trefol. Yn y cefndir, mae’n codi ymwybyddiaeth am golli bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Dylwn ni ddim anghofio’r rhain felly mae’n hyfryd i feddwl am bethau fel ‘na heblaw am dyfu blodau a phethau tlws.

Yn ogystal â hyn mae ‘na ymweliadau â gerddi dros Gymru a’r byd felly mae’r gwylwyr yn medru mwynhau syniadau gwahanol a hyd yn oed gweld blodau ceirios yn Siapan heb orfod gadael y soffa.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?

Mae ‘na sawl cyflwynydd yn y gyfres hon ac mae gan bob un ardd wahanol.

Os dach chi’n darllen cylchgrawn Lingo Newydd mi fyddwch chi wedi gweld colofn garddio a natur Iwan Edwards. Mae o’n hoffi natur ac mae o’n rhannu gardd efo’i wraig Sioned ym Mhont y Twr ger Rhuthun.

Mae hi’n drefnydd blodau talentog iawn ac mae hi  wedi cyflwyno’r rhaglen ers nifer o flynyddoedd. Mae hi’n arbenigwraig ar dyfu blodau i ddefnyddio ar gyfer ei chrefft. Maen nhw wrth eu boddau yn ailgylchu pethau a garddio efo natur,  a garddio yn gynaliadwy i warchod yr amgylchedd.

Mae  Meinir Gwilym  yn garddio ym Mhant y Wennol, Trefor lle mae hi’n ceisio creu prosiectau creadigol. Yn ddiweddar mae hi wedi creu borderi newydd. Garddwr organig yw hi. Mae ganddi egni positif iawn ac agwedd  “mae popeth yn bosib!” .

Yr olaf o’r cyflwynwyr rheolaidd ydy Rhys Rowlands. Mae o’n garddio ar randir Cae Pawb ym Mhorthmadog. Cogydd ydy o hefyd.

Y peth gorau am dyfu llysiau a ffrwythau ydy’r siawns i fwyta pethau ffres iawn. Mae Rhys yn frwdfrydig –  a pham lai? Fyswn i hefyd tasai fy mwyd i yn edrych mor flasus â bwyd Rhys!

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

I ddysgwyr, mae’r rhaglen hon yn ddefnyddiol iawn. Mae isdeitlau felly, fel arfer, dw i’n gwylio unwaith heb yr isdeitlau i ymarfer gwrando ar y Gymraeg. Wedyn, dwi’n gwylio’r rhaglen efo’r isdeitlau i ddysgu mwy am arddio!  Hyd yn oed os dw i jest yn dysgu bod gan Meinir falwod fel fi a does dim lot i wneud amdanyn nhw –  ‘mond tyfu digon o blanhigion i fwydo’r malwod a phobl.

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Yn fy marn i mae’n haws dysgu iaith os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn rhywbeth arbennig neu hobi er mwyn dysgu iaith sydd efo cysylltiad â rheiny. Mae’n debygol o roi mwy o gyfleoedd i’w defnyddio ac ymarfer yr iaith. Mae’n ddigri i fi bod fy Nghymraeg yn drydedd iaith yn yr ardd oherwydd, yn aml, fydd y garddwyr yn dweud enwau planhigion yn Lladin!

Felly fedra’i wneud labeli newydd ar gyfer y pethau yn fy ngardd i. Tatws, nionod, sbigoglys, malwod…