Mae Meilyr Jones yn rhan o dîm ymchwil agweddau iaith Prifysgol Brifysgol. Mae’n dweud y gallai gorddibyniaeth y llywodraeth ar addysg fel cyfrwng adfywio iaith arwain at sefyllfa debyg i’r un sy’n wynebu’r Wyddeleg…

Mae data o arolwg defnydd iaith y Gymraeg yn dangos cyfraddau isel o ddefnydd iaith ymhlith oedolion Cymraeg eu hiaith. Mae hyn yn faes penodol o bryder ym mholisïau’r llywodraeth gan fod strategaeth Cymraeg 2050 yn anelu at ddyblu canran y defnydd a wneir o’r Gymraeg yn ddyddiol.

Adlewyrchir yr amharodrwydd i ddefnyddio’r Gymraeg a ddarlunnir yma hefyd yn y gostyngiad mewn trosglwyddiad teuluol rhwng cenedlaethau, sef o bosib, y ffactor unigol pwysicaf  i oroesiad iaith. Mae ymchwil wedi amlygu y gallai gorddibyniaeth y llywodraeth ar addysg fel cyfrwng adfywio iaith, heb fentrau i fynd i’r afael â defnydd iaith, yn enwedig yn y teulu, arwain at sefyllfa debyg i’r un sy’n wynebu’r Wyddeleg.

Pwysigrwydd agweddau 

Rhaid i adfywio iaith leiafrifol gynnwys newid mewn agweddau at iaith. Er bod y llunwyr polisi y tu ôl i strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn nodi “normaleiddio canfyddiad a defnydd” fel her allweddol i fynd i’r afael â hi, nid yw strategaeth Cymraeg 2050 yn trafod yr angen i wella agweddau fel y cyfryw. Serch hynny, mae agweddau’n chwarae rhan ganolog mewn cynnal iaith yn llwyddiannus, a dyna pam y credwn fod rhaid rhoi mwy o bwyslais ar wella agweddau at yr iaith yng Nghymru.

Mae ein hymchwil yn edrych ar y berthynas rhwng agweddau iaith echblyg (explicit) ac ymhlyg (implicit) a chysylltiad â’r Gymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru. Rydym wedi gwneud hyn trwy gymharu data am gefndir siaradwyr o’r Holiadur Iaith a Chefndir Cymdeithasol (Language and Social Background Questionnaire) â chanlyniadau’r Raddfa Agweddau at Ieithoedd a Thasg Cysylltiadau Ymhlyg (Attitudes towards Languages (AToL) Scale and an Implicit Association Task.)

Cyfraniad cysylltiad cynnar 

Dengys ein canlyniadau fod gan siaradwyr agweddau mwy ffafriol tuag at y Gymraeg na’r Saesneg. Felly, yn groes i’r dirwedd bresennol o ostyngiad mewn defnydd a chysylltiad â’r Gymraeg yng Nghymru, mae agweddau echblyg siaradwyr dwyieithog tuag at y Gymraeg yn parhau’n gadarnhaol. Ar ben hynny, mae gan siaradwyr sydd â mwy o gysylltiad â’r Gymraeg mewn oedran ysgol gynradd agweddau mwy ffafriol tuag at y Gymraeg na’r rhai â llai o gysylltiad, sy’n dueddol o ffafrio’r Saesneg. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos pwysigrwydd cysylltiad ag iaith wrth feithrin agweddau cadarnhaol, ymhlyg tuag at y Gymraeg.

Mae ein canlyniadau’n awgrymu y gallai cysylltiad cynnar wneud mwy na rhoi’r sgiliau iaith angenrheidiol i blant eu defnyddio – swyddogaeth y gall addysg, hefyd, ei chyflawni’n llwyddiannus. Yr hyn y gall cysylltiad cynnar ei ddarparu y tu hwnt i sgiliau iaith yw modelu defnyddio’r iaith Gymraeg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau cymunedol. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymchwil mewn meysydd eraill – megis gweithgarwch corfforol a phatrymau cysgu – ble mae modelu ymddygiad yn chwarae rhan sylfaenol wrth ddylanwadu ar ymddygiad plant.

Goblygiadau 

Mae’r diffyg modelu sy’n rhan o brofiad rhai plant felly yn arbennig o berthnasol wrth ystyried cyd-destun y dirywiad mewn cysylltiad â’r Gymraeg oherwydd gostyngiad mewn defnydd cymdeithasol a throsglwyddiad teuluol rhwng cenedlaethau.

O ystyried targed presennol Llywodraeth Cymru i ddyblu’r defnydd o’r Gymraeg mewn meysydd megis y gwaith a sefyllfaoedd cymdeithasol, mae hyn yn awgrymu bod atal dirywiad yn y defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ac, yn benodol, trosglwyddo rhwng cenedlaethau o fewn y teulu, yn hanfodol i wella agweddau ymhlyg tuag at y Gymraeg. Dylid ei ystyried yn flaenoriaeth i bolisi iaith Llywodraeth Cymru. Dylai gwneud hyn mewn ardaloedd fel gogledd-orllewin Cymru, sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy shifft ieithyddol, fod yn hollbwysig.

Os bydd y patrymau presennol o ddirywiad yn parhau, gallai gostyngiad mewn cysylltiad arwain at agweddau ymhlyg llai ffafriol tuag at y Gymraeg, gan amlygu pwysigrwydd cysylltiad â’r Gymraeg yn y cartref a’r gymuned er mwyn bywiogrwydd y Gymraeg yn y dyfodol.

Mae gwella agweddau ymhlyg tuag at y Gymraeg yn arwyddocaol o safbwynt adfywiad iaith gan fod agweddau ymhlyg yn ymddangos yn well rhagfynegwyr o ymddygiad arferol nag agweddau echblyg, hynny yw, pa mor debygol yw’r siaradwr o ddefnyddio’r iaith. Felly, rydym yn awgrymu y dylai agweddau ymhlyg a’u heffaith bosib ar ddefnydd gael mwy o sylw gan ymchwilwyr a llunwyr polisi’r iaith Gymraeg fel ei gilydd.

Dylai gwaith ar agweddau at iaith yn y dyfodol gynnwys dulliau uniongyrchol ac anuniongyrchol, yn enwedig mewn ardaloedd eraill o Gymru lle mae llai o gysylltiad â’r Gymraeg, ac wrth asesu bywiogrwydd iaith yn gyffredinol.