Mae cabinet newydd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn “symbolaidd iawn” o’r symudedd cymdeithasol maen nhw’n gobeithio ei fagu trwy eu polisïau, meddai dadansoddwr gwleidyddol.

Cyhoeddodd Syr Keir Starmer ei gabinet ddydd Gwener (Gorffennaf 5), sy’n cynnwys Rachel Reeves fel Canghellor benywaidd cyntaf y DU a 10 o ferched eraill ymhlith y tîm o 25.

Yn ogystal, cafodd mwyafrif sylweddol o’r cabinet eu haddysgu mewn ysgolion y wladwriaeth.

Yn ôl dadansoddiadau, dyma’r agosaf mae cabinet wedi dod at gynrychioli’r DU yn deg.

Cabinet ‘symbolaidd’

Mae Elin Roberts, dadansoddwr geogwleidyddol a pholisi cyhoeddus sy’n byw ym Mharis, yn gobeithio bydd y cabinet “anhygoel” sydd wedi’i benodi yn gallu gwthio symudedd cymdeithasol ymlaen.

“Mae’r cabinet mae o [Syr Keir Starmer] wedi’i benodi yn symbolaidd iawn,” meddai wrth golwg360.

“Mae 96% o aelodau’r cabinet wedi cael eu haddysgu mewn ysgolion y wladwriaeth a dim ond 4% sydd wedi bod mewn ysgol breifat.

“Dyna yw’r nifer isaf erioed mewn cabinet.

“Mae’r llywodraeth mae o [Syr Keir Starmer] wedi’i greu yn anhygoel o ran rhoi elfen o symudedd cymdeithasol ymlaen, ac nid yn unig hynny, ond trwy’r bobol yma mae o wedi’i ddewis er mwyn creu’r llywodraeth.

“Dw i’n meddwl bod hwn yn newid gallwn ni ei groesawu’n fawr – y newid yma i roi sylw i symudedd cymdeithasol trwy gyflwyno newidiadau i addysg a phrentisiaethau ac ati.

“Dydyn ni heb weld newid mor fawr i symudedd cymdeithasol â hyn ers tro.”

Un sy’n sefyll allan yn y cabinet yw’r Dirprwy Brif Weinidog, Angela Rayner, meddai Elin.

“Mae o’n arwyddocaol iawn fod Angela Rayner yn Ddirprwy Brif Weinidog.

“Fe adawodd hi’r ysgol yn 16 oed heb gymwysterau, cael babi a gweithio’i ffordd fyny.

“Dw i’n dod o gartref rhiant sengl ym Mlaenau Ffestiniog ac wedi dod i Ffrainc i astudio ac i weithio yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis ac yn yr OECD, ac i bobol fel fi, dydy’r cyfleoedd yna ddim fel arfer yn bosib.

“O weld y fath o lywodraeth rydyn ni’n ei gael ym Mhrydain rŵan, mae o’n agor llygaid pobol a dw i’n meddwl bydd hynny’n dod â newidiadau o fewn y llywodraeth ac o fewn eu polisïau.”

Angen mwy o amser mewn pŵer i ‘gael effaith ar gymdeithas’

Er bod Elin wedi’i phlesio â syniadau’r blaid am bolisïau posib, mae hi’n poeni am yr amser fydd ei angen i weithredu rhai ohonyn nhw yn effeithiol.

“O be rydyn ni wedi’i weld dan y Torïaid, mae’r cynlluniau sydd gan y Blaid Lafur yn eithaf radical.

“Ond dw i’n meddwl bod ganddyn nhw dal lot o waith i’w wneud.

“Ar yr un pryd, mae’n rhaid ni fod yn realistig o be maen nhw’n gallu ei wneud efo’r gyllideb.

“Felly dw i’n meddwl y bydd o’n wahaniaeth o be rydyn ni wedi’i weld dros y degawd a mwy diwethaf.

“Ond pum mlynedd sydd ganddyn nhw i weithredu’r polisïau yma i gyd felly be sy’n digwydd ar ôl hynny?

“Mae’r cynlluniau sydd ganddyn nhw yn ddiddorol iawn ond mae angen mwy o amser – 10 mlynedd neu 15 mlynedd – i gael effaith ar gymdeithas.”