Mae Keir Starmer wedi dweud ei fod yn “bryderus iawn” am ddyfodol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot.
Daeth ei sylwadau wrth iddo ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wythnos ddiwethaf.
Roedd Tata ar frig yr agenda wrth iddo gwrdd â Phrif Weinidog Cymru Vaughan Gething ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Llun, 8 Gorffennaf).
Cymru oedd stop olaf Keir Starmer ar ei ymweliad a’r gwledydd datganoledig, gan ymweld â Belffast fore heddiw a’r Alban ddydd Sul.
Yn ystod ei ymweliad dywedodd y byddai Llywodraeth San Steffan yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn hytrach na’r gwrthdaro sydd wedi bod dros y 14 mlynedd ddiwethaf.
Dywedodd ei fod eisiau dod i Gymru i drafod amcanion tymor hir a “rhai o’r materion dybryd gan gynnwys dur Tata sy’n peri pryder mawr i mi, i’r Prif Weinidog ac i gynifer o bobl yma yng Nghymru.”
Mae llywodraethau Llafur Cymru a San Steffan yn pwyso ar Tata i beidio gwneud diswyddiadau gorfodol, gydag addewidion o arian ychwanegol i’r diwydiant dur yn y DU.
“Cytundeb gwell ar gael”
Mae miloedd o swyddi yn y fantol yn y gwaith dur ym Mhort Talbot ar ôl i gwmni Tata gyhoeddi eu bod nhw’n cau dwy ffwrnais chwyth ar y safle am eu bod yn gwneud colledion o £1m y dydd.
Fe gaeodd un ffwrnais chwyth wythnos ddiwethaf ac mae disgwyl i un arall gau ym mis Medi, gan arwain at golli hyd at 2,800 o swyddi uniongyrchol yn y de.
Mae Llafur eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi £2.5bn ychwanegol ar ben y £500m oedd wedi’i glustnodi gan y llywodraeth flaenorol.
Mae’r Ysgrifennydd Busnes newydd Jonathan Reynolds wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Tata dros y penwythnos ac mae wedi dweud ei fod yn credu bod “cytundeb gwell ar gael” i’r safle ym Mhort Talbot. Ond rhybuddiodd y byddai technolegau newydd yn golygu cyflogi llai o bobol.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens wedi dweud wrth ITV News fod ei llywodraeth eisiau i Tata Steel “edrych eto” ar ddyddiad cau’r ail ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.
Mae prif weithredwr Tata Steel Rajesh Nair wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at gynnal trafodaethau gyda llywodraeth newydd y DU.