Mae ffigyrau newydd yn dangos bod nifer y tai sy’n cael eu hailfeddiannu yng Nghymru wedi gostwng i’w lefel isaf ers degawd.

Yn ôl y ffigyrau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae nifer y tai sy’n cael eu hailfeddiannu wedi bod yn gostwng yn flynyddol ers 2008 pan gollodd bron i 2,500 o bobl eu cartrefi. Ond mae’r ffigwr diweddaraf ar ei isaf ers 2004.

Fe wnaeth beilïaid llys sirol ailfeddiannu 491 o dai yn 2015 o’i gymharu â 955 yn 2014.

Dywedodd y Cyngor Benthycwyr Morgeisi (CML) fod y ffigurau yng Nghymru wedi gostwng yn unol â gweddill y DU oherwydd cyfraddau morgais isel a chyflogaeth gymharol gryf.

Cyfraddau llog uwch

Ond rhybuddiodd CML y gallai’r sefyllfa newid pan mae cyfraddau llog, sydd wedi bod ar 0.5% ers mis Mawrth 2009, yn codi.

Meddai Sue Anderson, llefarydd ar ran CML: “Y mwyaf all pobl ei wneud nawr i sicrhau bod eu sefyllfa ariannol yn iach pan fydd y cyfraddau yn codi, y gorau fydd eu sefyllfa bryd hynny.”