Mae astudiaeth wedi datgelu fod magu plentyn yng Nghymru’n costio llawer mwy na thŷ.
Mae’r astudiaeth, gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (Cebr) ar ran cwmni yswiriant LV=, yn dangos bod magu plentyn nes ei fod yn 21 mlwydd oed yng Nghymru yn costio £215,144.
O’i gymharu, mae cost tŷ cyfartalog yn ne Cymru’n £163,252 ac yn £165,995 yng ngogledd Cymru yn ôl ffigyrau diweddar gan wefan tai Right Move.
Mae’r gost ar gyfartaledd ar draws y DU yn £231,843, yn ôl yr astudiaeth ac yn amrywio o £253, 638 yn Llundain i £214, 559 yn Swydd Efrog.
Gall rhieni sydd a’u plant mewn addysg breifat ddisgwyl talu llawer mwy.
Yn gyffredinol, y blynyddoedd cynnar rhwng un a phedwar blwydd oed, gyda chostau gofal plant, sy’n rhoi straen arbennig ar gyllidebau. Mae rhieni fel arfer yn gwario £63,224 yn ystod y blynyddoedd hyn.
Mae rhieni’n gwario mwy na £70,000 ar ofal plant wrth fagu eu plentyn, bron i 30% o gyfanswm y gost.
Mae £19,000 pellach yn cael ei wario gan rieni ar fwydo eu plant, £10,000 ar ddillad a £4,600 ar arian poced.
Mae’r bil ar gyfer diddanu plentyn hefyd yn uchel gyda £16,000 yn cael ei wario ar wyliau, £9,000 ar hobïau a theganau a £7,000 ar hamdden ac adloniant.