Mae triniaeth ganser a allai fod yn chwyldroadol wedi dangos canlyniadau “anhygoel” mewn profion cynnar.
Mae’r driniaeth yn gweithio drwy hyfforddi’r system imiwnedd i ymosod ar y canser ac mewn un astudiaeth, roedd symptomau 94% o’r rhai fu’n cymryd rhan, a oedd yn dioddef o lewcemia lymffoblastig aciwt, wedi diflannu yn gyfan gwbl.
Gwelodd cleifion gyda chanserau gwaed eraill gyfraddau ymateb oedd yn uwch na 80% gyda mwy na hanner yn gweld y canser yn diflannu’n gyfan gwbl.
‘Digynsail mewn meddygaeth’
Meddai’r Athro Stanley Riddell o Ganolfan Ymchwil Canser Fred Hutchinson yn Seattle, America: “Mae’r canlyniadau hyn wedi ymddangos mewn cleifion sydd heb weld gwahaniaeth gyda’r un driniaeth arall. Rhagwelir y byddai gan y rhan fwyaf o’r cleifion yn ein profion rhwng dau a phum mis i fyw.
“Mae hyn yn rhyfeddol. Yn ddigynsail mewn meddygaeth.”
Ond mae’r Athro Stanley Riddell yn cydnabod bod yn rhaid gwneud llawer mwy o waith cyn i’r driniaeth fod ar gael i’r cyhoedd ac nid oedd yn siŵr pa mor hir y byddai’r cleifion sydd heb symptomau yn aros felly cyn i’r canser ddychwelyd.
Hyd yn hyn, mae’r dechneg wedi cael ei brofi ar gleifion gyda chanserau’r gwaed hylifol yn unig. Meddai’r Athro Riddell ei fod yn gobeithio symud ymlaen at gleifion sydd â thiwmorau, ond nododd y byddai hynny hyd yn oed yn fwy o her.