Yn fy nghof i, Gwilym Tudur arweiniodd ni lawr o’r Home Caffe i Bont Trefechan i rwystro’r traffig ar y pnawn Sadwrn rhewllyd yna o fis Chwefror 1963 – gweithred wallgo’ ond un a lansiodd Cymdeithas yr Iaith ar lwybr newydd o weithredu anghyfreithlon. Roedd Gwilym yn deall ysbryd y “Chwyldro” yn well na neb, ac fe lwyddodd yn wyrthiol i’w ddal ar glawr yn ei gampwaith, Wyt Ti’n Cofio?, sy’n cofnodi chwarter canrif cyntaf y Gymdeithas mewn torion, atgofion, lluniau a chartwnau – a sylwadau craff y golygydd.
Cymerodd Gwilym ran amlwg yn ymgyrchoedd y Gymdeithas gan ddiodde’ carchar fwy nag unwaith, ond ei gyfraniad mwyaf oedd sefydlu Siop y Pethe gyda Megan, ei wraig. Gadawodd swydd braf fel ymchwilydd i HTV (ac un wedyn gydag Undeb Cymru Fydd), i arwain y don newydd o fusnesau Cymraeg a fyddai’n ymsefydlu yn y gorllewin. Yn baffiwr welterweight yn y coleg yn Aberystwyth, brwydrodd a chadwodd yn driw i’w ddelfrydau gydol ei oes – efallai’n rhy driw, er ei les ei hun.
Wrth gwrs, roedd Siop y Pethe’n fwy na siop lyfrau. Roedd Gwilym yn gwmnïwr diail, a chanddo’r ddawn i ganolbwyntio’n llwyr ar y person neu’r pwnc dan sylw ar y pryd. Mae yna chwedl amdano, yn aros gyda’i arwr, Wil Sam. Dros frecwast, fe sylwyd bod y bara’n brin ar gyfer tost. Cynigiodd Gwilym ’nôl torth o’r siop yn Llanystumdwy, ond wedi parcio y tu fa’s roedd llond bws o gefnogwyr Lerpwl ar eu ffordd i Anfield. Prynodd Gwilym y dorth, ond wnaeth hi ddim cyrraedd ’nôl i gegin Rhoslan tan frecwast bore wedyn!
Bachan gwych a gwreiddiol, difyr a diffuant, athronydd nad oedd amser yn bwysig iddo.