Mae’n “rhaid i Lafur gael gwared” ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n “gyfystyr â blacmel gwyrdd”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Daw sylwadau Andrew RT Davies, arweinydd y blaid yng Nghymru, yn dilyn protestiadau diweddar ynglŷn â newidiadau arfaethedig fyddai’n gofyn bod ffermwyr yn plannu coed ar 10% o’u tir.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu’r diwydiant ar ôl Brexit, ac mae’n rhoi llawer mwy o bwyslais ar yr amgylchedd.

Er mwyn cael mynediad i’r cynllun, bydd rhaid i ffermwyr ymrwymo i blannu coed ar 10% o’u tir, a chlustnodi 10% arall fel cynefin i fywyd gwyllt.

Gydag 80% o dirwedd Cymru yn nwylo ffermwyr, mae’r Llywodraeth yn teimlo bod ganddyn nhw rôl allweddol i’w chwarae wrth helpu’r ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Ond mae hyn wedi tanio protestiadau a thrafodaethau, gan nad yw nifer o ffermwyr yn teimlo y bydd y cynllun yn ymarferol bosib wrth gynnal busnes fferm.

‘Fawr ddim ystyriaeth, os o gwbl, am ddiogelwch bwyd’

Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 20), dywedodd Andrew RT Davies y byddai’r cynllun yn “ddinistriol” i nifer o ffermwyr.

“Mae eich dadansoddiad eich hun yn trafod colled o 5,500 o swyddi, lleihad o 125,000 mewn gwartheg, 800,000 o ddefaid, a £200m o golled mewn gweithgaredd economaidd yn yr economi wledig,” meddai.

“A phan rydyn ni’n siarad am geisio cael cynllun ffermio cynaliadwy sy’n darparu diogelwch bwyd, ar rifau fel yna, yn amlwg nid oes fawr ddim ystyriaeth, os o gwbl, am ddiogelwch bwyd.”

Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod sicrhau cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yn rhan hanfodol o’r cynllun.

“Nid yn unig y gallaf gadarnhau i arweinydd yr wrthblaid fod ffermio cynaliadwy yn rhan hanfodol o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, dyma’r cynhwysyn pwysicaf,” meddai.

“Dyma’r peth cyntaf i ni ddweud bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi’i chynllunio i sicrhau cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yma yng Nghymru.

‘Slap yn wyneb ffermwyr’

Tarodd Andrew RT Davies yn ôl gan feirniadu disgrifiad y Prif Weinidog o’r cynllun fel “bargen”.

“Mae disgrifiad y Prif Weinidog o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel “bargen” yn slap yn wyneb ffermwyr ledled Cymru,” meddai.

“Prin y byddai cynlluniau Llafur ar gyfer amaethyddiaeth, sy’n ddinistriol i gymaint o ffermwyr ac yn diddymu busnesau gwledig sydd wedi bod yn darparu bwyd ac yn gofalu am ein cefn gwlad ers cenedlaethau, yn ‘fargen’.

“Mae’n rhaid i Lafur gael gwared ar y polisi hwn, sy’n gyfystyr â blacmel gwyrdd, cyn iddyn nhw wneud niwed nad oes modd ei wrthdroi i’n cymunedau ffermio.”

Ymrwymiad

“Roeddem yn benderfynol o gynnig y cyfle cyntaf i ffermwyr yng Nghymru dyfu’r coed y bydd eu hangen arnom, oherwydd bydd angen miloedd ar filoedd yn rhagor o goed arnom yng Nghymru mewn cyfnod o newid hinsawdd,” meddai Mark Drakeford.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud hynny, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig y cyfle cyntaf i ffermwyr wneud hynny.

“Lle nad yw’n bosibl cyrraedd 10% oherwydd topograffi’r tir neu ystyriaethau eraill, mae’r Gweinidog eisoes wedi nodi cynigion fel na fyddai disgwyl i ffermwyr gyrraedd hynny.

“Lle gall ffermwyr, lle mae’n rhesymol gofyn iddyn nhw, rydym yn disgwyl i ffermwyr wneud cyfraniad at liniaru newid hinsawdd a byddan nhw’n cael eu gwobrwyo am wneud hynny drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.”

Ffermwyr yn dioddef ‘blinder polisi’

Un arall sydd wedi lleisio’i bryderon ynglŷn â’r cynllun yw Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Rwy’n gwybod o brofiad uniongyrchol bod llawer o ffermwyr yn cefnogi’r awydd i wneud ffermio sy’n gyfeillgar i natur y safon ar draws Cymru,” meddai.

“Ond pan maen nhw’n cael rhywbeth mor gymhleth â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae’r ffermwyr hyn ar yr un pryd yn gwbl bryderus am y posibilrwydd o drawsnewid.

“Ers blynyddoedd, mae ffermwyr wedi bod dan straen o dan reoliadau cynyddol sy’n gosod gofynion gwaith papur gormodol.

“Mae astudiaethau di-ri wedi dangos mai gorlwytho gwaith papur yn aml yw prif achos straen ymhlith ffermwyr, gyda 60% o ffermwyr yn cael eu llethu gan lenwi ffurflenni cyson.

“Gyda’n ffermwyr eisoes yn dioddef blinder polisi o ran rheolaethau llygredd, iechyd a diogelwch a phrofion clefydau, gallai gweithredoedd helaeth a chymhleth y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fod yn bwynt torri meddyliol i nifer.

“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru eistedd i lawr a gwrando ar bryderon ffermwyr, rhaid iddyn nhw gydnabod cymhlethdodau ac anawsterau eu hagwedd tuag at ariannu ein ffermydd.

“Ni ddylai ein ffermwyr gael eu troi’n fychod dihangol gan Weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd sydd wedi dangos dro ar ôl tro ddiffyg dealltwriaeth lwyr o anghenion ardaloedd gwledig.

“Ni allwn fforddio dieithrio ein cymuned ffermio, yn enwedig pan fyddant yn barod i weithio gyda ni wrth drosglwyddo i ddull mwy gwyrdd o ffermio.””