Mae Swyddfa Cyfiawnder Ffederal y Swistir yn cwestiynu ymchwiliad gan farnwr yn Llys Cenedlaethol Sbaen i droseddau honedig gan Marta Rovira, gwleidydd o Gatalwnia sy’n byw’n alltud.

Mae’r achos yn ymwneud â gweithredoedd y grŵp brawychol honedig Tsunami Democràtic.

Mae’r awdurdodau yn y Swistir yn gwrthod helpu Sbaen i ddod o hyd i Rovira, ar ôl i Lys Cenedlaethol Sbaen anfon llythyr yn gofyn am gymorth.

Cafodd cais tebyg ei wrthod yn 2019 hefyd.

Bu Rovira’n byw’n alltud yn y wlad ers ymgyrch annibyniaeth 2017.

Mae’r Swistir yn gofyn am ragor o wybodaeth am y cais newydd cyn penderfynu a yw’r cais yn un “gwleidyddol ei natur”, ac maen nhw’n awyddus i wybod pam fod y barnwr yn ceisio gwybodaeth am ei thrafodion banc hyd at 2020.

Mae’r Swistir hefyd eisiau gwybod mwy am y cyswllt honedig rhwng Rovira a dwy brotest ym meysydd awyr Sbaen yn 2019.

Mae’r barnwr yn Sbaen yn awyddus i erlyn unrhyw un oedd â rhan yn ymgyrchoedd Tsunami Democràtic, gan gynnwys Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia.

Mae’r grŵp wedi’i amau o weithredu yn erbyn Sbaen a’i Chyfansoddiad.