Mae Plaid Cymru wedi cipio buddugoliaeth hanesyddol yng Ngwynedd.

Am y tro cyntaf yn hanes llywodraeth leol, mae dwy ran o dair o gynghorwyr awdurdod lleol yng Nghymru bellach yn perthyn i Grŵp Plaid Cymru.

Mae’r Blaid yn dweud eu bod nhw’n “falch iawn o groesawu cynghorydd annibynnol o Feirionnydd i ymuno â’r grŵp cynghorwyr”.

Bydd y Cynghorydd John Pughe, sy’n cynrychioli Morfa Tywyn, yn derbyn croeso gwresog wrth ymuno â’i gyfarfod grŵp cyntaf yr wythnos hon.

Mae’r cynghorydd newydd yn ymuno wedi i’r Blaid sicrhau buddugoliaeth mewn is-etholiad Cyngor Gwynedd yng Nghricieth.

Wedi’i eni a’i fagu yn Nhywyn, mae ganddo brofiad helaeth fel Cynghorydd Tref, wedi iddo arwain y cyngor fel cadeirydd a chynrychioli’r dref fel maer dros y blynyddoedd.

Mae’n angerddol dros wasanaeth iechyd lleol yn Ysbyty Tywyn, ac yn ymfalchïo bod ei lobïo a’i ddyfalbarhad yn gweld nyrsys ychwanegol yn cael eu lleoli yn yr ysbyty.

Mae’n falch iawn o’i linach teuluol sy’n hanu nôl i’r Gwylliaid Cochion o Fawddwy; criw enwog iawn yn y parthau am weithredu’n uniongyrchol, yn ôl hen chwedlau llên gwerin.

Bydd y Cynghorydd newydd, Siân Williams, hefyd yn mynychu ei chyfarfod grŵp gwleidyddol cyntaf yr wythnos hon.

Bydd Plaid Cymru bellach yn dal dwy ran o dair o seddi Cyngor Gwynedd, gyda 46 o gynghorwyr o’r 69 sedd bellach yn cael eu cynrychioli gan y grŵp.

‘Ymdeimlad o berthyn’

“Rwy’n symud i grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn bennaf oherwydd y gefnogaeth a’r ymdeimlad o berthyn rwyf wedi’i brofi wrth weithio gyda’r Aelod dros Senedd Cymru, Mabon ap Gwynfor, AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts ac Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn,” meddai’r Cynghorydd John Pughe.

“I mi a nifer o’m hetholwyr, mae cyflawni o fewn y swydd yn hollbwysig, ac yn yr hinsawdd ariannol bresennol, mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio fel un i gyrraedd pen y daith.

“Rwy’n ddiolchgar i’r grŵp annibynnol am eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch yn ystod fy ugain mis gyda nhw.”

Dywed Cai Larsen, cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd, y byddan nhw’n “estyn croeso cynnes iawn” i’r ddau gynghorydd newydd.

“Dwi’n croesawu’n gynnes i’r gorlan, ein Cynghorydd newydd dros Gricieth, Siân Williams, wedi ei buddugoliaeth ysgubol yn yr Isetholiad diweddar,” meddai.

“Derbyniodd Siân 72% o bleidleisiau’r etholwyr, cynnydd enfawr o 30% yn y bleidlais.”

‘Ased i’n grŵp’

“Bydd y Cynghorydd John Pughe yn ased i’n grŵp,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd.

“Mae ei gryfder tawel a’i ymroddiad cydwybodol yn lleol yn ased i bobl Tywyn, a bydd cael John yn ein grŵp ninnau yn cryfhau ein tîm yng Ngwynedd.

“Mae’n gyfnod hynod heriol i ni fel cynghorau sir ledled Cymru.

“Ond fel tîm cryf Plaid Cymru, byddwn yn parhau i amddiffyn y bregus, cefnogi’r gwannaf yn ein cymunedau a chynnig y cyfleoedd gorau posib, y gallwn ni, i’n trigolion.”