Bydd yr atgofion o Gwilym Tudur, “un o arwyr ei gyfnod”, yn aros, yn ôl Emyr Llywelyn.
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i un o arweinwyr cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a sefydlydd y siop Gymraeg modern cyntaf, Siop y Pethe, Aberystwyth, sydd wedi marw’n 83 oed.
Wrth siarad â golwg360, dywed cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith a sylfaenydd mudiad Adfer y bydd yr “atgofion melys am gyfaill annwyl” a “fu’n gymaint rhan” o’i fywyd yn aros, er ei golli.
Roedd Gwilym Tudur yn un o arweinwyr cyntaf Cymdeithas yr Iaith, yn cydweithio gyda rhai amlwg eraill o’r cyfnod fel Dafydd Iwan, Cynog Dafis, Geraint Jones, Emyr Llywelyn, a’r diweddar John Davies a Gareth Miles.
Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol yn Aberystwyth, sefydlodd wasg gyhoeddi, Gwasg y Glêr.
Yn 1967, agorodd Siop y Pethe, Aberystwyth, a bu’n ei rhedeg am 48 o flynyddoedd gyda Megan, ei wraig.
Tyfodd y siop yn ganolfan i’r bywyd Cymraeg cyfoes, ac yn ei llofft yr oedd cartref swyddfa gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
‘Dyddiau aur’
Bu Emyr Llywelyn a Gwilym Tudur, ynghyd â Dyfrig Thomas, yn cyd-fyw mewn fflat uwchben Caffi Morgan yn Aberystwyth – drws nesaf ond un i Siop y Pethe – am gyfnod yn y brifysgol, a “dyddiau aur” oedden nhw, meddai Emyr wrth golwg360.
“Dyddiau aur oedd cyd-letya gyda Gwilym a Dyfrig yn y fflat uwch Caffi Morgan pan oedden ni’n tri yn fyfyrwyr yn Aberystwyth,” meddai.
“Yno, bu cyd-gynllwynio i geisio newid y byd a gweithredu yn Nhryweryn.
“Yn wir, fe aeth Gwilym i Dryweryn, a chof gennyf am yr hirdaith, y cerdded dros y bryniau o Drawsfynydd i Dryweryn yn y nos.
“Oni bai am Gwilym, fyddwn i fyth wedi mynd i Dryweryn – ef fy nghyflwynodd i Owain a John.
“Ef drefnodd lond bws o fyfyrwyr adawodd eu darlithoedd i gefnogi yn y llys yn y Bala, a chafodd ei gosbi gan y coleg am hynny.
“Roedd Gwilym a Megan yn rhan o’r bwrlwm creadigol yn y coleg, dramâu lawer, a sefydlu papur Cymraeg y coleg, Llais y Lli.
“A bu Gwilym a minnau yn cyhoeddi dramâu hefyd.
“Aeth Gwilym, fel Dyfrig, ymlaen i roi ei oes gyfan i fyd llyfrau gyda chychwyn Siop y Pethe ganddo ef a Megan.
“Gweithredodd dros Gymdeithas yr Iaith a chael, gyda Ffred Ffransis, ei gyhuddo ar gam o ymosod ar blismon (y ddau olaf yn y byd fyddai’n gwneud hynny!).
“Aeth y ddau ar ympryd dewr mewn protest.
“Roedd e’n un o arwyr ei gyfnod, ac yn enaid hoff cytûn i mi.
“Ac er ei golli, mae’r atgofion melys am gyfaill annwyl a fu’n gymaint rhan o fy mywyd yn aros.”