Mae ymchwil newydd yn dangos bod cymunedau Cymru yn wynebu mwy o heriau i allu perchnogi a rheoli asedau sydd mewn perygl o gael eu colli am byth, o gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Mae adroddiad Perchnogaeth Gymunedol: Ffordd Ymlaen i Gymru wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 20), gan roi darlun o ddyfodol asedau cymunedol os na fydd newidiadau i helpu grwpiau lleol i achub amwynderau “hanfodol” rhag mynd yn adfeilion neu gael eu gwerthu.

Mae’r ymchwil yn dangos bod y sefyllfa yng Nghymru llawer gwaeth nag yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ac nad oes gan gymunedau yng Nghymru’r un hawliau â phobol yn Lloegr a’r Alban i gychwyn proses drosglwyddo asedau cymunedol gan awdurdodau cyhoeddus, nac unrhyw amddiffyniad rhag cystadleuaeth gan ddatblygwyr am dir ac adeiladau preifat.

Awgryma’r ymchwil fod Cymru “ymhell ar ei hôl hi” o ran cael y dulliau a’r cymorth yn eu lle i helpu grwpiau lleol i gymryd perchnogaeth o asedau cymunedol.

Canfyddiadau

Caiff asedau cymunedol eu cydnabod fel ffactor sylweddol sy’n cryfhau gwydnwch a lles pobol leol, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau.

Dangosodd eu hymchwil blaenorol fod yna gydberthynas clir rhwng diffyg asedau cymunedol mewn ardaloedd lle mae pobol yn ymgysylltu llai, yn llai egnïol, â chysylltedd tlotach â’r economi ehangach, gyda chanlyniadau cymdeithasol ac economaidd sylweddol wahanol i ardaloedd lle caiff mwy o’r asedau hyn eu perchnogi.

Mae’r canfyddiadau’n dangos:

  • mai’r Alban sydd â’r opsiynau deddfwriaethol mwyaf effeithiol a bod cyfradd yr asedau sy’n eiddo i’r gymuned wedi tyfu’n gynt na Lloegr ers i’r ddeddfwriaeth ddechrau;
  • bod Hawl Cymunedol i Gynnig yn yr Alban yn fwy effeithiol o lawer na’r Fersiwn yn Lloegr – gyda dim ond 1.5% o asedau cymunedol enwebedig yn trosglwyddo i berchnogaeth gymunedol yn Lloegr, o’i gymharu â 57% yn yr Alban;
  • bod tystiolaeth yn awgrymu, er mai dim ond 24 o weithiau y defnyddiwyd Hawl Cymunedol i Brynu, y gall hawl i’r cynnig cyntaf roi mantais i gymunedau i drafod gwerthu asedau y tu allan i’r ddeddfwriaeth.

Dangosodd yr ymchwil hefyd fod 87% o’r grwpiau gafodd eu holi eisiau helpu i achub asedau rhag i’r gymuned eu colli.

Ond dim ond 7% gafodd gynnig y cyfle i wneud hyn.

Soniodd 77% o gymunedau hefyd am heriau wrth geisio prynu eu hasedau.

Y rhwystr mwyaf cyffredin yw costau cyfalaf, pris uchel yr asedau, a gwerthwyr nad ydyn nhw’n cydweithredu.

Dywedodd 67% o’r cyfranogwyr hefyd eu bod yn ymwybodol o opsiynau a phrosesau yn gysylltiedig â pherchnogaeth gymunedol cyn dechrau ar eu prosiect.

Argymhellion

Mae ymchwil Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn cynnwys wyth argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r “anghydbwysedd” yma.

Yn y tymor byr:

  • annog rhwydweithio gan gymheiriaid ymysg cymunedau
  • cynyddu ymwybyddiaeth am brosiectau llwyddiannus
  • sicrhau mynediad i adnoddau ar-lein
  • creu “siop un stop” ar gyfer prosiectau perchnogaeth gymunedol yng Nghymru.

Yn y tymor hir:

  • cyflwyno Hawl Cymunedol i Brynu, gan gynnig yr hawl i’r cynnig cyntaf pan fydd asedau ar gael i’w gwerthu i’r farchnad
  • parhau ac ymestyn cyllid cyfalaf/refeniw i grwpiau cymunedol Cymru
  • atgyfnerthu prosesau ymgeisio ar gyfer cyllid lle bo hynny’n bosibl
  • dylai awdurdodau cyhoeddus gydnabod pwysigrwydd perchnogaeth gymunedol i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

“Mae’r ymchwil newydd hwn yn ailadrodd yn glir yr heriau amlwg sy’n wynebu cymunedau yng Nghymru, wrth iddynt geisio rheoli neu gymryd perchnogaeth o gyfleusterau allweddol,” meddai Swyddog Polisi’r ymddiriedolaeth.

“Mae hefyd yn darparu camau gweithredu clir y gellir eu cyflawni y dylid eu gweithredu’n gyflym, er mwyn diogelu cyfleusterau allweddol ar gyfer fory a thu hwnt.”