Mae “Cymru’n well lle” oherwydd Gwilym Tudur, yn ôl Dafydd Iwan.
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i un o arweinwyr cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a sefydlydd y siop Gymraeg modern cyntaf, Siop y Pethe, Aberystwyth, sydd wedi marw’n 83 oed.
Wrth siarad â golwg360, dywed ei fod yn “bersonoliaeth hynaws iawn”, “yn arloeswr” wrth sefydlu Siop y Pethe, “yn llenor naturiol” ac yn “gefn mawr” i Gymdeithas yr Iaith yn eu hymgyrchoedd cynharaf yn y 1960au.
“Roedd Gwilym Tudur yn gyfaill triw iawn i mi, ac yn bersonoliaeth hynaws iawn, ac un na chlywais i’n dweud gair cas am neb erioed,” meddai’r canwr ac ymgyrchydd.
“Roedd o’n gefn mawr i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.
“Roedd Gwilym hefyd yn arloeswr, drwy sefydlu Siop y Pethe gyda Megan, ei wraig, ac roedd o hefyd yn llenor naturiol, ac wedi cyhoeddi sawl cyfrol.
“O bosib, ei gyfrol bwysicaf o oedd hanes chwarter canrif cyntaf Cymdeithas yr Iaith, Wyt ti’n Cofio?, fydd yn gyfrol bwysig iawn wrth i haneswyr y dyfodol edrych yn ôl ar y cyfnod.
“Mi fydd colled fawr ar ôl Gwilym, a hiraeth mawr ar ei ôl o, ond mae Cymru yn well lle o’i herwydd.”
Wrth dalu teyrnged, dywed Cymdeithas yr Iaith fod Gwilym Tudur wedi gosod “sylfeini cryf i’r mudiad ac i’r frwydr dros y Gymraeg a’n cymunedau, sy’n parhau hyd heddiw”.
“Bu’n ddylanwad mawr ar nifer o aelodau ac ymgyrchoedd,” meddai’r mudiad.
“Rhyfeddu, synnu a gorfoleddu” yng Ngwlad y Basg
A hwythau’n ganolog i ymgyrchoedd cynnar Cymdeithas yr Iaith, cofia Dafydd Iwan deithio gyda Gwilym Tudur i Wlad y Basg yn dilyn marwolaeth Franco.
Yno, bu’r canwr yn perfformio yng Ngŵyl y Cenhedloedd Bychain yn San Sebastián yng nghwmni cynrychiolwyr o wledydd bychain Ewrop.
“Roedd Gwilym wrth ei fodd yng nghanol yr ymchwydd cenedlaethol yng Ngwlad y Basg ar ôl marw Franco, yn rhannu’r cynnwrf oedd yng Ngwlad y Basg dros yr iaith a thros annibyniaeth,” meddai Dafydd Iwan.
“Roedd Gwilym yn ymateb fel plentyn, bron, i amgylchiadau fel yna, wrth ei fodd yn rhyfeddu ac yn synnu, ac yn gorfoleddu o fod yn rhan o’r awyrgylch.
“Roedd yna rywbeth hoffus yn y ffordd roedd o yn rhyfeddu at fywyd mewn amgylchiadau o’r fath.
“Wnaeth o ddim colli’r ddawn yna o synnu a rhyfeddu, ac o chwerthin – roedd y wên a’r chwerthiniad bob amser yn agos i’r wyneb gyda Gwilym.
“Mi fydd hiraeth mawr ar ei ôl o.”