Bu farw Gwilym Tudur, un o arweinwyr cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a sefydlydd y siop Gymraeg modern cyntaf, Siop y Pethe, Aberystwyth.

Cafodd ei eni yn un o bump o blant ar fferm Bryn Dewin yn Chwilog, Eifionydd.

Roedd ei dad Robert William Jones yn fardd bro medrus, yn gyfansoddwr emynau ac yn athro sol-ffa. Un o’i chwiorydd yw’r cyfansoddwr cerdd dant Nan Elis.

Ar ddiwedd blynyddoedd yr arddegau, dechreuodd werthu llyfrau Cymraeg allan o gefn fan, yn ei gyrru i ardaloedd gwledig Arfon ac i lawr yng Ngheredigion.

Roedd yn un o arweinwyr cyntaf Cymdeithas yr Iaith, yn cydweithio gyda rhai amlwg eraill o’r cyfnod fel Dafydd Iwan, Cynog Dafis, Geraint Jones, Emyr Llywelyn, a’r diweddar John Davies a Gareth Miles.

Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol yn Aberystwyth, sefydlodd wasg gyhoeddi, Gwasg y Glêr.

Yn 1967, agorodd Siop y Pethe, Aberystwyth, a bu’n ei rhedeg am 48 o flynyddoedd gyda’i wraig, Megan.

Tyfodd y siop yn ganolfan i’r bywyd Cymraeg cyfoes, ac yn ei llofft yr oedd cartref swyddfa gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Fel sgwennwr, cyhoeddodd gyfrol o ysgrifau, Byclings! (1981), astudiaeth o iaith lafar bro Eifionydd (gyda’i chwaer, Mair E Jones) Amen, Dyn Pren (2004), a bu’n addasu nifer o lyfrau plant poblogaidd yn yr 1980au, fel Siôn Corn a Mae Llygoden Hŷ yn y Tŷ!

Ysgrifennodd hefyd gyfres deledu i bobol ifanc o’r enw Marinogion.

Aberth

Cafodd Gwilym Tudur ei gadw yn y ddalfa sawl tro yn enw Cymdeithas yr Iaith, ac roedd yn un o enwau amlycaf yr ymgyrch arwyddion ffyrdd.

Roedd yn un o’r wyth o Senedd y Gymdeithas gafodd eu harestio yn Chwefror 1971 – blwyddyn penllanw cyfnod poblogaidd y mudiad iaith – a’u cyhuddo o Gynllwyn.

Yn ei lyfr swmpus ar hanes chwarter canrif cyntaf Cymdeithas yr Iaith, Wyt Ti’n Cofio? (Y Lolfa, 1989), mae’n dweud bod ‘achos yr wyth’ wedi datblygu “yn gyfrwng i fynegi dicter y cenedlaetholwyr Cymraeg am ddiraddiad parhaus yr iaith”.

Yn 1969, bu’n rhaid iddo fe a Ffred Ffransis ddioddef bwydo gorfodol yng ngharchar Abertawe. Mae’r hanes hynod i’w gael yn ei lyfr Wyt Ti’n Cofio?

Pont Trefechan a dychmygu sianel Gymraeg

Roedd Gwilym Tudur yn un o arweinwyr protest gyntaf enwog Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan yn Aberystwyth ar Chwefror 2, 1963.

Mae ei gyfoedion wedi tystio mai fe fu’n bennaf gyfrifol am ddarbwyllo’i gydweithredwyr i fynd lawr at y bont i atal llif y traffig y diwrnod hwnnw, a hynny mewn cyfarfod yn yr Home Cafe yn dilyn ymgais aflwyddiannus y bore i gael eu harestio am ludo posteri ar fur swyddfa bost y dref.

Mi wnaeth lluniau Geoff Charles o’r digwyddiad ar y bont gael sylw mawr, a chodi ton newydd o weithredwyr pybyr dros yr iaith.

Yn y 1960au cynnar, siaradodd yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith am y syniad o sefydlu sianel Gymraeg i Gymru – y tro cyntaf, credai, i unrhyw un grybwyll y syniad yn gyhoeddus.

Roedd yn byw yng Nghaernarfon ers 2019, ar ôl byw am bron i hanner canrif yn Lledrod, ger Tregaron.