Mae angen meddwl yn “fwy eang ac yn fwy creadigol am sut rydyn ni’n cefnogi iechyd meddwl a llesiant meddyliol pobol,” yn ôl Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru.

Daeth sylwadau Lynne Neagle wrth lansio’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol a’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio newydd ar gyfer ymgynghoriad.

‌Nod y strategaethau drafft, sydd ar gael i ymgynghori arnyn nhw tan Fehefin 11, yw newid sut mae’r wlad yn meddwl am iechyd meddwl, grymuso pobol i wella eu hiechyd meddwl, a chael gwared ar y rhwystrau a’r stigma sy’n ymwneud â chael cymorth.

‌Gyda hanner y cyflyrau iechyd meddwl yn effeithio ar bobol cyn eu bod nhw’n 14 oed, a 75% cyn eu bod nhw’n 23 oed, mae’r strategaethau’n canolbwyntio’n helaeth ar atal drwy sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar y pethau sydd eu hangen arnyn nhw i gynnal iechyd meddwl da – fel ymarfer corff, yr amgylchedd naturiol, a pherthyn i’r gymuned.

Y strategaethau

‌Mae’n canolbwyntio hefyd ar y rhesymau ehangach am iechyd meddwl gwael – gan gynnwys tai, cyflogaeth a chyllid – ac ar atal hunanladdiad.

‌Mae rhai grwpiau’n wynebu mwy o berygl o iechyd meddwl gwael nag eraill, a gall anghydraddoldebau gyfrannu at iechyd meddwl gwael.

Felly y gobaith o ran y strategaethau yw “hyrwyddo tegwch o ran mynediad, profiadau a chanlyniadau i bawb”.

‌Pan fydd angen cymorth ar bobol, mae’r strategaethau yn bwriadu cydnabod bod anghenion pobol yn amrywiol ac nad pawb fydd angen gwasanaethau iechyd meddwl clinigol neu arbenigol. ‌

Y nod yw adeiladu ar lwyddiant cymorth sy’n hawdd cael gafael arno, fel y gwasanaeth 111 pwyso 2 a therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein, ochr yn ochr â dulliau ehangach er mwyn parhau i wella cymorth mewn ysgolion a gweithleoedd. ‌

Annog cydweithio

Wrth siarad cyn lansiad y strategaethau drafft yn yr Hangout, canolfan cymorth iechyd meddwl a gweithgareddau i bobol ifanc yng Nghaerdydd, dywedodd Lynne Neagle, fod angen cydweithio rhwng pob sector er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant meddyliol.

‌”Mae iechyd meddwl da yr un mor bwysig i’n llesiant ni ag iechyd corfforol, ac mae gymaint o bethau yn ein bywydau ni yn effeithio arno,” meddai.

“‌Nid yw’n fater i faes iechyd a gofal cymdeithasol yn unig; mae angen i bob rhan o’r gymdeithas a’r Llywodraeth weithio gyda’i gilydd i helpu pobol i gynnal iechyd meddwl da.

‌”Mae angen inni newid sut rydyn ni’n siarad am faterion iechyd meddwl, ac yn eu cefnogi, er mwyn adlewyrchu anghenion unigolion yn well. ‌

“Rydyn ni wedi gwrando ar ystod o safbwyntiau wrth ddatblygu’r strategaethau ac mae pobl wedi dweud wrthyn ni am beidio â thrin iechyd meddwl fel rhywbeth meddygol yn unig.

“I’r rhan fwyaf o bobol, er bod angen cymorth arnyn nhw, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu gwasanaethau iechyd meddwl clinigol neu arbenigol.

‌”Mae’r ganolfan lle rydym yn lansio’r strategaeth heddiw yn ganlyniad partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’r elusen Platfform.

“Mae’n ffordd arloesol o roi cymorth tosturiol sy’n ystyriol o drawma i bobol ifanc mewn amgylchedd diogel a chyfforddus. ‌

“Mae angen i bob sector weithio gyda’i gilydd, gan gydnabod eu rôl o ran cefnogi iechyd meddwl a llesiant meddyliol.

‌”Mae hunanladdiad a hunan-niweidio yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd, anwyliaid, gweithwyr proffesiynol a chymunedau.

“Er bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn gymhleth, mae modd eu hatal ac nid ydyn nhw byth yn anorfod.

‌”Mae yna gamdybiaeth gyffredinol bod gan bobl sy’n marw drwy hunanladdiad broblem neu salwch iechyd meddwl.

“‌Bydd y strategaeth hon yn ein helpu i ddeall yr achosion yn well a deall pa grwpiau yw’r rhai mwyaf agored i niwed, fel y gallwn ni roi mesurau atal, ymyrraeth a chymorth cyflym ac effeithiol ar waith.”

Canolfan Hangout yn ‘ailddiffinio’ sut mae pobol yn derbyn cymorth

Yn ôl Katie Simpson, Dirprwy Reolwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobol Ifanc a Theuluoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae’r Hangout wedi bod yn hollbwysig wrth ailddiffinio’r ffordd mae plant a phobol ifanc yr ardal yn cael cymorth.

“Mae’r Hangout wedi ein galluogi ni i ailddiffinio sut mae plant a phobl ifanc ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn cael gafael ar gymorth iechyd meddwl a llesiant emosiynol,” meddai.

“Ein nod bob amser yw sicrhau bod plant a phobol ifanc yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn yn y lle iawn, a’r gobaith yw bod yr Hangout yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gyflawni hyn.

“Mae wedi bod yn daith wych ac mae gweld syniadau eich pobol ifanc yn dwyn ffrwyth o’r diwedd drwy wasanaeth sydd wedi’i sefydlu ar y cyd yn garreg filltir anhygoel. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddal i gydweithio â phobol ifanc a Platfform i ddatblygu a gwella gwasanaethau’n gyson.”

‌”Rydyn ni’n falch iawn o fod yn yr Hangout heddiw, wrth i ymgynghoriad y strategaethau gael ei lansio,” meddai Ewan Hilton, Prif Weithredwr Platfform.

‌”Mae’r ganolfan lesiant yma yn enghraifft o ddull iechyd meddwl newydd rydyn ni’n ei hyrwyddo, sy’n rhydd rhag beirniadaeth, yn dosturiol ac yn hygyrch.

“‌Mae’n fan lle mae pobol yn gallu cysylltu ag eraill a chael cymorth pan fyddan nhw ei angen – ac rydyn ni’n falch iawn o’r dull hwn.

“‌Byddwn yn cyfrannu at yr ymgynghoriad, gan argymell dulliau blaengar a hyrwyddo’r gwaith rhagorol sy’n digwydd yn barod.”