Mae camau ar y gweill i wneud y Gymraeg yn fwy parod ar gyfer datblygiadau deallusrwydd artiffisial (AI), yn ôl Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.
Ers iddyn nhw gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg yn 2018, mae gwaith wedi cael ei wneud i greu a chomisiynu adnoddau a data i wella technoleg yn Gymraeg.
Mae hefyd wedi cefnogi datblygu technoleg llais yn Gymraeg, ac mae rhai o’r cyflawniadau’n cynnwys datblygu technegol i droi Cymraeg llafar yn destun ysgrifenedig, creu lleisiau synthetig ar gyfer pobol sy’n colli’r gallu i siarad a datblygu cyfieithu peirianyddol arbenigol.
Mae gwaith ar y gweill i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd o fewn cyfarfodydd ar-lein Microsoft Teams hefyd, yn sgil partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Microsoft.
Ar hyn o bryd, mae’r gwaith yn parhau gyda Microsoft i ddatblygu’r cyfleuster hwn ymhellach, yn y gobaith y gall hyn arwain at greu adnoddau tebyg a newydd ar gyfer ieithoedd sy’n cael eu siarad ledled y byd, yn seiliedig ar y gwaith yng Nghymru.
‘Wedi dod yn bell’
Yn ôl Jeremy Miles, mae’r cynllun wedi dod yn bell, ond mae Llywodraeth Cymru am barhau i sicrhau bod adnoddau technoleg Cymraeg yn esblygu wrth i dechnoleg esblygu.
“Rydyn ni am sicrhau bod unrhyw un yn gallu defnyddio’r Gymraeg mewn technoleg mewn mwy a mwy o sefyllfaoedd, heb i neb orfod gofyn neu fynd allan o’u ffordd am gael gwneud hynny,” meddai.
“Tair thema’r Cynllun yn ôl yn 2018 oedd technoleg lleferydd Cymraeg, cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, a deallusrwydd artiffisial sgwrsiol.
“Rydyn ni wedi cymryd y dasg o ddifrif, ac mae gwaith arloesol wedi ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd datblygiadau digidol.”