Mae data sydd wedi’i gyhoeddi’n dangos bod cerbydau’n gyrru 4m.y.a. yn arafach ar gyfartaledd ar briffyrdd ers i’r terfyn cyflymder 20m.y.a. gael ei gyflwyno dros y wlad.

Roedd y data, gafodd ei gasglu gan gorff Trafnidiaeth Cymru, yn monitro cyflymder miliynau o gerbydau mewn naw cymuned wahanol ledled Cymru, cyn ac ar ôl i’r terfyn gael ei roi ar waith.

Mae’r data’n dangos gostyngiad o 4m.y.a. ar gyfartaledd – o 28.9m.y.a i 24.8m.y.a – ar briffyrdd.

Mae ymchwil yn dangos bod cysylltiad clir rhwng gyrru’n arafach a gostwng nifer y gwrthdrawiadau a nifer y bobol sy’n cael eu hanafu.

Ar ffyrdd trefol, am bob 1m.y.a. o ostyngiad yn y cyflymder, mae gostyngiad o 6% yn nifer y gwrthdrawiadau hefyd.

Mae’r duedd hon ar i lawr yn y cyflymder yn cael ei hategu hefyd gan y data yn yr adroddiad monitro terfynol, gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 20) hefyd, am yr ardaloedd lle cafodd y terfyn o 20m.y.a. ei gyflwyno gyntaf.

‘Calonogol’

Yn ôl Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, mae’n “galonogol fod pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir”.

“Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw yn dystiolaeth glir bod cyflymderau cyfartalog yn gostwng ar ffyrdd ledled Cymru,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod hefyd, ar sail data gafodd ei gyhoeddi gan Gan Bwyll yn gynharach yn y mis, bod 97% o yrwyr yn cydymffurfio â’r terfyn cyflymder arafach newydd – mae ymddygiad ac agweddau at y terfyn 20m.y.a. yn dechrau newid.

“Mae gennym gryn ffordd i fynd eto, ond mae’n galonogol gweld bod pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir.

“Mae pob gostyngiad o 1m.y.a. mewn cyflymder yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, felly mae hwn yn drobwynt go iawn.

“Mae’r dystiolaeth ryngwladol yn glir, mae gyrru ar gyflymder is yn achub bywydau – mae llai o wrthdrawiadau, llai o farwolaethau, a llai o anafiadau difrifol, gan leihau’r trallod i unigolion a’u teuluoedd a hefyd yr effaith enfawr ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r gwasanaethau brys eraill.”

Wrth sôn am yr ystadegau diweddaraf, ychwanega Ross Moorlock, Prif Weithredwr yr elusen diogelwch ffyrdd Brake, ei fod yn gobeithio y bydd gweddill y Deyrnas Unedig yn dilyn esiampl Cymru.

“Mae’n galonogol gweld bod y terfyn cyflymder newydd o 20m.y.a wedi arwain at ostwng cyflymder cyffredinol ar y ffyrdd hyn,” meddai.

“Bob dydd, mae pump o bobol yn marw ar ffyrdd y Deyrnas Unedig ac mae cyflymder yn ffactor ym mhob damwain.

“Po gyflymaf y byddwn ni’n gyrru, y mwyaf yw’r risg o gael damwain, a’r caletaf y bydd y gwrthdrawiad os cawn ni ddamwain.

“Rydyn ni’n gwybod fod damweiniau ffordd yn cael effaith erchyll ar deuluoedd a chymunedau.

“Yn anffodus, rydyn ni’n gweld hynny’n uniongyrchol bob dydd drwy waith ein Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Dioddefwyr ar y Ffyrdd.

“Y llynedd, rhoddodd y Gwasanaeth hwnnw gefnogaeth i dros 1,500 o deuluoedd a oedd wedi cael profedigaeth oherwydd damwain ffordd neu wedi dioddef anafiadau trychinebus a newidiodd eu bywydau.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd llywodraethau ac awdurdodau lleol ar draws y Deyrnas Unedig yn dilyn esiampl Cymru ac yn mabwysiadu terfyn cyflymder diofyn o 20m.y.a. ar ffyrdd lle mae pobol a cherbydau’n cymysgu.”

Gwahaniaeth positif

Ochr yn ochr â’r data cenedlaethol sydd wedi’i gyhoeddi heddiw, cafodd adroddiad cychwynnol y Tîm Adolygu annibynnol, sy’n edrych ar eithriadau o’r terfyn diofyn o 20m.y.a., ei gyhoeddi hefyd.

Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o ganfyddiadau cynnar ac argymhellion cychwynnol.

“Mae arweinwyr cynghorau yn croesawu’r adolygiad o’r gweithredu ac o’r canllawiau cyfredol,” meddai Andrew Morgan Prif Weithredwr Cyngor Llywodraeth Leol Cymru, wrth siarad am waith y tîm adolygu annibynnol.

“Byddan nhw’n eu helpu i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer eu cymunedau.

“Mae cynghorau am fod yn rhan o’r adolygiad er mwyn gwneud yn siŵr bod y terfyn cyflymder iawn ar y strydoedd iawn.

“Er ei bod yn ymddangos bod yna rai ffyrdd lle nad yw’r terfyn cyflymder yn gywir, a bod angen i’r awdurdodau lleol ailedrych arno, rydyn ni wedi clywed gan rai cynghorau bod gwahaniaethau positif wedi cael eu gweld o ran cyflymder a diogelwch ar eu strydoedd, yn enwedig ymhlith pobol agored i niwed.”