Doedd 55% o’r bobol sydd ar Gredyd Cynhwysol yng Nghymru yn methu fforddio digon o fwyd fis diwethaf, yn ôl ymchwil newydd.
Mae ymchwil diweddaraf y Trussell Trust yn dangos bod 37,700 o bobol ar Gredyd Cynhwysol yn y wlad wedi gorfod defnyddio banc bwyd fis Ionawr.
Mae’r data hefyd yn dangos bod 54% o’r bobol gafodd eu holi ar ei hôl hi â biliau, neu yn ei chael hi’n anodd parhau â thaliadau.
Yn ogystal, mae 40% o’r rhai ar Gredyd Cynhwysol yng Nghymru mewn dyled, gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio talu biliau.
Dros y tri mis diwethaf, mae 25% wedi methu coginio bwyd poeth gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio defnyddio’r popty neu gyfleusterau eraill.
Fe wnaeth 46% ddweud eu bod nhw wedi methu prydau er mwyn gallu fforddio biliau eraill, megis rhent, dros y tri mis diwethaf.
Ar ben hynny, dywed 25% o’r rhai gafodd eu holi eu bod nhw wedi methu apwyntiadau hanfodol, megis gweld y meddyg neu fynd i’r gwaith, yn y tri mis diwethaf gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio trafnidiaeth.
‘Herio tlodi’
Yn sgil y canfyddiadau diweddaraf, mae’r Trussell Trust yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod Credyd Cynhwysol yn ddigon i dalu am nwyddau a thaliadau hanfodol.
“Mae’r ymchwil yn dangos y gwir plaen am dlodi yng Nghymru,” meddai Jo Harry, arweinydd y Trussell Trust yng Nghymru.
“Gyda thros hanner y rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol yn methu fforddio digon o fwyd a rhai ddim hyd yn oed yn gallu fforddio coginio bwyd, all y Prif Weinidog newydd ddim sefyll o’r neilltu a gadael i hyn barhau.
“Rhaid iddyn nhw flaenoriaethu mynd i’r afael â’r tlodi a’r caledi yn ein cymunedau.
“Dydy banciau bwyd ddim i fod yn rhywbeth parhaol yn ein cymunedau, a dydy pecynnau bwyd brys ddim yn ddigon i gael gwared ar newyn.
“Rhaid i bob Aelod o’r Senedd gymryd cyfrifoldeb dros wneud y gwahaniaeth cadarnhaol sydd ei angen i herio tlodi a chaledi a chreu’r newid sydd ei angen i ddod â’r angen am fanciau bwyd i ben yng Nghymru.”
‘Methu fforddio coginio’
Y llynedd, fe wnaeth Banc Bwyd Caerdydd rannu dros 19,000 o barseli bwyd, oedd yn gynnydd o 52% ers y flwyddyn flaenorol.
“Mae ein data yn dangos mai Credyd Cynhwysol yw unig incwm dau draean o’r bobol sy’n dod i Fanc Bwyd Caerdydd, ac mai eu prif reswm dros fod angen y pecynnau yw eu bod nhw methu fforddio nwyddau hanfodol,” meddai Rachel Biggs, Prif Weithredwr Banc Bwyd Caerdydd.
“Mae mwy a mwy o bobol angen bwyd sydd ddim angen cael ei goginio neu fwyd all gael ei wneud â dŵr poeth yn unig oherwydd dydy pobol methu fforddio defnyddio offer coginio, neu does ganddyn nhw ddim mynediad at y cyfleusterau.
“Dyw hyn ddim yn iawn.”